Geid i gigs Steddfod 2015
- Cyhoeddwyd

Mi fydd Plu yn perfformio ar Lwyfan y Maes ar y pnawn Gwener ola'
Heb os, mae wythnos yr Eisteddfod yn un hollbwysig i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg - tybed beth fydd yn mynd â'ch bryd chi eleni?
sicr fydd 'na ddim prinder dewis, gyda'r trefnwyr yn "addo mwy o gerddoriaeth nag erioed" ym Mhrifwyl Maldwyn a'r Gororau.
Gohebydd BBC Cymru, ac awdur y blog cerddoriaeth juxtapozedblog.com, dolen allanol, Teleri Glyn Jones, sydd wedi bod yn pori drwy'r arlwy ac mae hi wedi sôn wrth Cymru Fyw am beth fydd rhai o'i huchafbwyntiau hi.

Wrth i gyn lleied o bobl fynychu gigs Cymraeg yn ystod y flwyddyn, mae wythnos yr Eisteddfod yn gyfle prin i'r artistiaid berfformio o flaen torf fawr ac i farchnata'u cerddoriaeth i gynulleidfa newydd.
Eleni, fel arfer, mae 'na wledd o berfformwyr a chyfle i wrando ar hen ffefrynnau yn ogystal â darganfod synau newydd.
Dyma rai o'r gigs a'r digwyddiadau cerddorol sy'n cael lle yn fy amserlen eisteddfodol i...
Gigs
Mae Llwyfan y Maes wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros y blynyddoedd, a tydi'r arlwy eleni ddim yn siomi.
Ar y Dydd Gwener ola', mi fydda' i yn mynnu lle ym mlaen y dorf o ganol pnawn, i gael fy swyno gan Plu am 15:00, cyn cael fy neffro gan Fand Pres Llareggub am 17:00.
Fel petai hynny ddim yn ddigon, mi fydd Gwenno yn rhoi blas i ni o'i halbwm diweddara'. Mae 'Y Dydd Olaf' wedi cael ymateb ffafriol iawn ers cael ei ail-ryddhau ar label Heavenly Records.
Ac yn dilyn llwyddiant 'Dwyn yr Hogyn Nol', Geraint Jarman fydd yn dod â'r cyfan i ben ar y Maes. Ac ar ôl iddo 'godi to' castell Caernarfon yng Ngŵyl Arall ychydig wythnosau'n ôl, 'dw i'n sicr y bydd hyd yn oed yr eisteddfodwyr mwya' parchus ar eu traed.
Ar y nos Sadwrn, mae 'na ddau ddewis, Yws Gwynedd ac Yr Ods ar Lwyfan y Maes neu Candelas a'r Ffug ym Maes B. Ers bron i 10 mlynedd, mae Yr Ods wedi bod yn sŵn cyfarwydd mewn gigs ar draws Cymru. Ond yn y misoedd diwetha', maen nhw wedi bod yn ddistaw. 'Dw i am fanteisio ar gyfle prin i ganu "Fel Hyn Am Byth" nerth fy mhen. Ac os welwn ni hanner brwdfrydedd torf llynedd i set Yws Gwynedd eleni, mi fydd hi'n noson fywiog iawn.

Bydd Sŵnami yn rhyddhau eu halbwm cynta' yn yr Eisteddfod
Yn ystod y pnawn mae Palenco hefyd ar Lwyfan y Maes, band 'dw i'n edrych ymlaen at weld yn fyw ar ôl cael gymaint o flas ar eu halbwm newydd. Fedra'i ddim dewis, felly, yn syth ar ôl Yr Ods mi fydda' i'n codi pac a'i heglu hi am Faes B, i smalio bod yn roc a rôl wrth wrando ar Candelas ac Y Ffug.
I'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth werin, mae'r Tŷ Gwerin ar y Maes yn cynnig amrywiaeth helaeth - o gymanfa gerdd dant i sesiynau clera. Uchafbwynt i mi fydd Detholiad o 'Welsh Folk Songs' Dr Meredydd Evans, gyda Gwilym Rhys Bowen (Plu ac Y Bandana). Mae hwnnw Ddydd Llun am 16:00.
Sŵnami ydy band prysura' Cymru ar hyn o bryd, efallai, wrth iddyn nhw hyrwyddo'u halbwm cyntaf, ar label IKACHING. 'Dw i wedi cael mymryn o ragflas, a galla' i gadarnhau y bydd dilynwyr y band yn blês.
Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Mae 9 Bach, Candelas a Geraint Jarman ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Yn ei hail flwyddyn, mae gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn profi amrywiaeth a chryfder y sîn gerddorol ar hyn o bryd. Cerddoriaeth i blant, gwerin amgen, pop pur, reggae a cherddoriaeth electroneg, mae 'na rywbeth ar y rhestr fer i bawb, ac eleni mae hi wir yn anodd rhagweld pwy fydd yn cipio'r wobr. Mae gan y beirniaid dasg anodd wrth benderfynu, 'dw i'n falch nadfi sy'n gorfod dewis.
Y Rhestr Fer:
9 Bach - Tincian (Real World)
Al Lewis - Heulwen o Hiraeth (Al Lewis)
Candelas - Bodoli'n Ddistaw (I-Kaching)
Datblygu - Erbyn Hyn (Ankst Music)
Fernhill - Amser
Gwenno - Y Dydd Olaf (Peski)
Yws Gwynedd - Codi/\Cysgu
Geraint Jarman - Dwyn yr Hogyn Nol (Ankst)
Plu - Holl Anifeiliaid y Goedwig (Sain)
R Seiliog - In HZ (Turnstyle)
Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi brynhawn Dydd Gwener, 7 Awst, am 15:00 yng Nghaffi Maes B.
Dim ond detholiad bach sydd yma o'r holl gerddoriaeth a'r digwyddiadau sydd ar gael.
Mae 'na restr lawn o ddigwyddiadau'r Maes a Maes B ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol, ac mae gigs Cymdeithas yr Iaith yn cael eu rhestru ar eu gwefan nhw, dolen allanol.
Mwynhewch!
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd14 Mai 2015