Magu neu fygu creadigrwydd?

  • Cyhoeddwyd
Anni Llŷn

Oes digon yn cael ei wneud i hybu creadigrwydd ymysg y genhedlaeth nesa'?

Yn ogystal â bod yn gyflwynydd ar S4C ac yn Fardd Plant Cymru, ar ddydd Mawrth mae Anni Llŷn yn olygydd gwadd ar raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru. Mae'n trafod rhai o'r pynciau sydd dan sylw gyda Cymru Fyw:

Pryder am ein system addysg

Rydym yn byw mewn byd cyfnewidiol. Mae'n amhosib rhagweld y dyfodol, ac eto mae ein system addysg i fod i baratoi ein plant ni ar gyfer y dyfodol hwnnw.

Dyma oedd y pwynt cynta' wnaeth Syr Ken Robinson yn ei drafodaeth nôl yn 2006 wrth wneud Ted Talk - sefydliad a gwefan arbennig o ddifyr sy'n darlledu trafodaethau a darlithoedd am bob math o bynciau - o dan y pennawd 'Do schools kill creativity?, dolen allanol'

Mae Syr Ken Robinson, sy'n arbenigwr ar greadigrwydd, yn sôn am y cysyniad nad oes gan blant ofn bod yn anghywir. Mae'n pwysleisio os nad wyt ti'n barod i fod yn anghywir wnei di fyth ddatblygu syniadaeth wreiddiol. Ond mae'n datgan pryder bod ein system addysg yn dysgu ein plant i ofni bod yn anghywir.

Mae astudiaeth arall i'r maes, sy'n cael ei grybwyll mewn erthygl 'Can you learn to be creative?, yn codi'r pwynt fod profion sylfaenol addysg gyhoeddus yn annog cydymffurfiaeth yn hytrach na gwreiddioldeb.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Anni yn cymryd yr awenau gan y bardd plant presennol, Aneirin Karadog, ym mis Medi

O gofio bod y drafodaeth yma wedi ei chyhoeddi yn 2006, mae Syr Ken yn datgan bod angen i gymdeithas ailfeddwl egwyddor sylfaenol addysg gyhoeddus.

Ffaith ddifyr arall nes i ddarganfod wrth ddarllen mwy am y pwnc yw bod 'creadigrwydd' yn cael ei ystyried yn sgil academaidd mewn rhai prifysgolion ar draws y byd. Ym Mhrifysgol Talaith Buffalo mae 'na Ganolfan Rhyngwladol Astudiaethau mewn Creadigrwydd, hyd yn oed.

Allwn ni, fel cymdeithas ac o fewn addysg, wneud mwy i annog meddylfryd creadigol yn ein plant?

Mae'r gallu i feddwl yn wreiddiol ac annibynnol yn hanfodol ar gyfer goroesi ac addasu i'r dyfodol cyfnewidiol a dieithr 'ma sydd o'n blaenau. Ydan ni'n gwneud digon i baratoi'n plant ar gyfer hyn?

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae darllen yn "cefnogi'r gallu i fynegi'n glir ac effeithiol", yn ôl Anni Llŷn

Darllen er mwyn datblygu

Bydd adroddiad yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi gan Achub y Plant a chlymblaid o sefydliadau eraill o'r enw 'Darllena. Datblyga' - sy'n ddatblygiad o'r ymgyrch 'Read On. Get On' yn Lloegr a'r Alban. Mae'n ymateb i'r pryder bod gormod o blant sy'n cyrraedd ysgol uwchradd ddim yn gallu darllen yn ddigon da.

Targed yr ymgyrch ydi cael pob plentyn 11 oed yn darllen yn dda erbyn 2025. Mae 'Darllena. Datblyga.' yn canolbwyntio ar Gymru ac mae'n ymgyrch sy'n cael ei anelu at bawb - y Llywodraeth, rhieni, ac athrawon.

Mae 'na lawer o bwyntiau, ffeithiau ac awgrymiadau'n codi o'r adroddiad. Ond un o'r rhai cryfaf yw'r datganiad bod rhoi sylfaen ieithyddol gadarn i blant mor fuan â thair oed yn eu paratoi ar gyfer datblygu sgiliau darllen. Felly mae hi'n bwysig annog cyfathrebu positif ymysg plant ifanc cyn iddyn nhw gyrraedd oed darllen.

Sut mae Achub y Plant?

Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i gael fy newis i ysgrifennu rhagair ar gyfer yr adroddiad ac un o'r pwyntiau sy'n bwysig i mi ei rannu yw fod darllen yn fwy na edrych ar air a gallu ei ailadrodd neu ei ysgrifennu. Mae gallu darllen yn golygu gallu deall a gallu dehongli.

Drwy annog darllen 'da ni'n annog y sgiliau hyn sy'n hanfodol mewn bywyd y tu hwnt i giatiau'r ysgol. Mae darllen hefyd yn annog ehangder ieithyddol ac, yn sgîl hynny, yn cefnogi'r gallu i fynegi'n glir ac effeithiol.

I mi, dyma yw hanfodion allweddol darllen yn dda, ac felly dwi'n credu'n gryf ym mhwrpas ac ymdrech yr adroddiad 'Darllena. Datblyga.' Ac er mwyn codi ymwybyddiaeth am ymdrechion Achub y Plant a'r glymblaid sy'n cefnogi'r adroddiad rydw i'n awyddus i drafod a chlywed barn pobl am beth mae "darllen" yn ei olygu iddyn nhw.

Anni Llŷn yw'r golygydd gwadd ar raglen Post Cyntaf am 06:00 fore Mawrth 25 Awst ar Radio Cymru.

Hefyd gan y BBC