Cariad at iaith y bandiau
- Cyhoeddwyd
Beth sy'n gwneud i rywun o wlad arall ffoli ar gerddoriaeth o Gymru, er nad ydyn nhw'n deall gair o'r iaith?
Rydyn ni wedi bod yn sgwrsio efo pedwar o bobl o'r tu allan i Gymru sydd wedi uniaethu gyda'n hiaith a'n cerddoriaeth ar ôl dod ar draws bandiau fel Gorky's Zygotic Mynci a Super Furry Animals - a syrthio mewn cariad gyda Chymru.
Dyma stori Kliph Scurlock, cyn-ddrymiwr y Flaming Lips; Debs Williams o Lundain a Melonie Winter a Chris Minney o'r Unol Daleithiau.
Kliph Scurlock
Mae Kliph Scurlock wedi teithio'r byd fel cyn-ddrymiwr y band roc o'r Unol Daleithiau, The Flaming Lips, ond drwy ei gysylltiad gyda bandiau Cymraeg, mae wedi darganfod ei gartref ysbrydol yng Nghymru ac wedi dod yma i fyw.
Mae'r cerddor o Kansas wedi bod yn dysgu ychydig o Gymraeg dros y blynyddoedd ac yn teimlo mai Caerdydd yw ei wir gartref ar ôl dod i adnabod y brifddinas tra'n perfformio gyda Gruff Rhys yn 2014.
Ers mis Medi 2015 mae wedi bod yn chwarae i nifer o fandiau yn y Brifddinas ac ar daith.
Ond dechreuodd ei gysylltiad gyda cherddoriaeth Gymraeg nôl yn y 1990au pan glywodd Gorky's Zygotic Mynci am y tro cyntaf.
"Roedden nhw wedi arwyddo i Mercury am gyfnod byr draw fan hyn a'r peth cynta' wnaethon nhw ei ryddhau yn yr UDA oedd casgliad o'r enw 'Introducing Gorky's Zygotic Mynci'," meddai.
"'Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd' oedd y gân gynta ac ro'n i'n hooked cyn gynted ag y clywais i'r darn lle maen nhw'n torri o'r roc swnllyd i'r darn eglwysig, seicadelic 'ain't got school in the morning'. Roedd gen i obsesiwn llwyr am yr albwm yna."
Ar ôl i ffrind ddweud wrtho mai Cymraeg oedd yr iaith oedd yn swnio fel "gibberish" aeth ati i chwilio am fandiau eraill o Gymru a dod ar draws Super Furry Animals, a chael ei gyfareddu ganddyn nhw hefyd.
A thrwy hynny, daeth Kliph i wybod am fandiau Cymraeg eraill: "Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra ro'n i efo'r Flaming Lips, mi wnes i gyfarfod Gruff [prif leisydd y Super Furries] a'i holi am Gymru a'r sîn gerddoriaeth Gymreig ac mi anfonodd o lwyth o stwff ata' i, trysorfa o stwff - Zabrinski, Datblygu, Meic Stevens.
"Ond ro'n i wrth fy modd efo fo'i gyd ac wrth i hyn i gyd suddo i mewn, mi wnes i sylweddoli fod 'na rywbeth am y miwsig sy'n dod o'r wlad yma sy'n siarad efo nghalon i yn fwy nag unrhyw fiwsig arall.
"Wrth deithio efo'r Lips, mi wnes i gwrdd â lot o Gymry ac roedden nhw bob amser yn rhai o'r bobl mwyaf agored, didwyll a hyfryd dwi erioed wedi eu cyfarfod."
Daeth i Ŵyl y Dyn Gwyrdd efo'r Lips yn 2010 "a chwrdd â chymaint o bobl hyfryd a chymaint o fandiau da. Ro'n i'n teimlo fel petawn i adre."
Erbyn 2014 roedd Kliph wedi gadael y Flaming Lips, ar ôl ffrae gymharol gyhoeddus, ac yn teithio yn Ewrop gyda Gruff Rhys i hyrwyddo'r albwm a'r ffilm 'American Interior'.
Fe wnaethon nhw berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014 ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd y flwyddyn honno.
Treuliodd lawer o amser yng Nghaerdydd ac mae'n egluro iddo deimlo'n gyfforddus a chartrefol yno ar unwaith:
"Dwi ddim yn credu mod i erioed wedi bod mewn lle mor brydferth a heddychlon. Ac fe wnes i lot o ffrindiau newydd a threulio amser gyda'r rhai oedd gen i a chael amser gwych, gan deimlo'n dawel a fel petawn i adre."
Fe wnaeth hefyd syrthio "dros ei ben a'i glustiau" mewn cariad efo merch o Gaerdydd, meddai, a dyna pryd y dechreuodd feddwl am symud yno i fyw. Ei obaith yw gallu gwneud hynny fis Tachwedd os caiff fisa.
Ar ôl darganfod fod rhai o'i gyndeidiau ar ochr ei dad yn lowyr o Gymru a ddaeth i'r Unol Daleithiau yn y 1880au - ac mae ganddo berthnasau hyd heddiw sy'n lowyr yn Ohio - mae Kliph yn ystyried tybed ydy Cymreictod yn ei waed?
Meddai: "Do'n i ddim yn gwybod dim o hyn cyn clywed Gorky's. Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn gwybod o lle ro'n i wedi dod, dim ond i lle ro'n i'n mynd. Ond ar ôl syrthio mewn cariad gyda'r iaith, y gerddoriaeth a diwylliant Cymru, ro'n i'n falch iawn o ddarganfod fod rhai o fy nghyndeidiau wedi dod o'r wlad hudol hon.
"A falle fod hynny'n rhan o pam dwi'n teimlo mor gartrefol yno a pham mod i'n teimlo mor agos at y gerddoriaeth. Falle ei fod yn y gwaed a bod y gwaed yn adnabod ei hun a'i gartref."
Debs Williams
Un arall gafodd ei denu at Gymru ar ôl clywed Gorky's ydy Debs Williams. Roedd hi'n fam ifanc yn byw yn Llundain ac yn gweithio fel teipydd i Gyngor Camden yn 1996. Wedi iddi hi a'i gŵr cynta' wahanu roedd hi angen darganfod rhywbeth i ganolbwyntio arno ac fe wnaeth hi ail-afael yn ei diddordeb mewn cerddoriaeth drwy ddarllen yr NME a Melody Maker a mynd i gigs.
Un noson fe welodd Gorky's Zygotic Mynci yn cefnogi Manic Street Preachers mewn gig ac, fel Kliph Scurlock, dyna lle dechreuodd ei thaith i fyd y Gymraeg.
Prynodd recordiau Gorky's i gyd cyn sylweddoli nad oedd yn deall y geiriau. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ac ymhen ychydig sefydlodd gylchgrawn o'r enw Welsh Bands Weekly, oedd yn ddylanwadol yn y cyfnod.
Heddiw mae hi'n byw yng Nghlynnog Fawr yng Ngwynedd, yn briod efo Cymro, yn nain i hogyn bach dwyieithog o'r enw Jacob Llŷr ac yn ystyried ei hun yn Gymraes.
Mae hi'n egluro sut digwyddodd y cyfan:
"Mi ddysgais Gymraeg i fy hun drwy ddefnyddio llyfrau a chasetiau a mynd i ddosbarthiadau sgwrsio yng Nghanolfan Gymraeg Llundain.
"Ro'n i'n mynd yn fwy a mwy rhwystredig gyda'r geiriau stereotypical, a sarhaus iawn yn aml, oedd yn cael eu defnyddio i ddisgrifio cerddorion o Gymru yn y wasg gerddorol Llundain-ganolog ac mi benderfynais y gallwn wneud job well o hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn Llundain. A dyna sut ddechreuodd y cylchgrawn.
"Mi wnes i gyfarfod Dewi mewn parti aftershow Super Furries yn y Shepherd's Bush Empire yn 1998. Roedd fy merch yn 10 oed pan wnaethon ni symud i Drefor, lle roedd rhieni Dewi yn byw. Mi dreuliodd fy merch dri mis yn dysgu Cymraeg mewn uned ddwys yn Llangybi cyn cael ei thaflu mewn i addysg cyfrwng Cymraeg.
"Dwi ddim yn cofio yn iawn pam fod cerddoriaeth Gymraeg yn apelio - ro'n i'n licio sut oedd yr iaith yn swnio mewn caneuon dwi'n meddwl. Ond dwi'n cofio cael dim profiad o Gymraeg y gogledd hyd at glywed cerddoriaeth Anweledig - roedd o fel gorfod dysgu iaith newydd eto! Felly, diolch i Anweledig am fy mharatoi ar gyfer bywyd yn y gogledd!
"Roedd 'na lot o fandiau Cymreig (dim jyst Cymraeg) o'n i'n licio ar y pryd - 60ft Dolls, Manics, Sterephonics ayyb - y peth mawr oedd eu bod nhw i gyd yn dod o Gymru, ond fod pob un yn swnio'n wahanol, felly roedd yn annheg, yn fy marn i, i'w rhoi i gyd efo'i gilydd fel genre, sef beth roedd y cyfryngau cerddorol yn Llundain yn 'neud.
"Mwy nag unrhyw beth oedd y teimlad mai hen, hen iaith yw'r Gymraeg, iaith 'wreiddiol' Prydain - mae'n debyg fod hynny'n cyffwrdd ryw gornel ramantaidd o fy enaid. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes, yn enwedig hanes Prydain, felly efallai dyna pam mae'r Gymraeg yn apelio. (Mae Edward I yn ennyn diddordeb mawr ac atgasedd ynof i ar yr un pryd …) Dwi wedi hen ddiarddel fy Seisnigrwydd erbyn hyn, ac o'm safbwynt i, rydw i'n Gymraes rŵan!
"Mae gen i gyndeidiau a neiniau o Gymru ar ochr taid fy mam, dwi'n credu mai o ardal Trefforest roedden nhw - ond do'n i ddim yn gwybod hyn nes i mi ddechrau dysgu Cymraeg. Ro'n i'n arfer dweud fod fy ngwaed Cymreig yn fy ngalw i adre!"
Melonie Walter
Mae Melonie Walter yn rhedeg cwmni dylunio yn nhalaith Washington gyda'i gŵr, Chris Minney, ac maen nhw wedi creu gwefannau i rai bandiau Cymraeg.
Dywed Melonie fod ei diddordeb mewn bandiau o Gymru wedi dechrau yn 2002 pan oedd hi'n ymchwilio ar gyfer taith i Gymru i olrhain ei choeden deulu.
"Ro'n i'n dod ar draws cyfeiriadau at fand o'r enw Super Furry Animals o hyd. Ro'n i'n chwilfrydig. Felly mi archebais 'Fuzzy Logic' a 'Rings Around the World' ac mi ddaru'r ddwy record honno chwalu 'mhen i," meddai.
"O fewn dyddiau ro'n i wedi archebu popeth oedd i'w gael gan y Super Furry Animals ar y we. Roedden nhw mor wahanol i bopeth ro'n i wedi gwrando arno o'r blaen, roedden nhw'n herio, yn cyfuno ac yn chwalu cymaint o genres ac mor od a gwych - roedden nhw'n ysbrydoliaeth.
"Mi ddechreuais i chwilio am gerddoriaeth Gymreig arall a dod ar draws 'The Hunt For Meaning' gan MC Mabon. Ar ôl y gwrandawiad cynta' dyma fi'n meddwl "…are you kidding me?"!
"Ro'n i wedi darganfod trysor roc a hip hop. Hip hop Cymraeg? Pwy feddyliai!
"Yna mi ddes i o hyd i artistiaid oedd mor dda ac unigryw, bandiau fel Zabrinski, Texas Radio Band a Llwybr Llaethog.
"Ddes i o hyd i gymuned SFA wych a bywiog ar-lein lle roedd pawb yn siarad ac yn rhannu popeth am SFA ond pethau eraill hefyd, gan gynnwys cerddoriaeth Gymraeg. Roedden ni'n siarad lot am bobl oedd wedi dylanwadu ar SFA, fel Datblygu a Meic Stevens a Ffa Coffi Pawb cyn SFA. Mi ddywedodd ffrind da wrtha' i am Swci Boscawen - am lais!
"A rŵan mae Cate Le Bon, Joy Formidable a Los Campesinos! i gyd wedi llwyddo i gael eu chwarae ar y radio yma yn yr Unol Daleithiau.
"Fis Mai 2015 fe wnes i a ngŵr, Chris, hedfan i Gaerdydd i weld SFA yn chwarae dair gwaith ac roedd eu gweld yn chwarae adre yng Nghaerdydd yn gwireddu breuddwyd imi.
"Er nad ydw i'n siarad yr iaith, mae cerddoriaeth Gymraeg yn siarad efo fi mewn ffordd nad oes unrhyw gerddoriaeth arall wedi gwneud. Cymru am byth!"
Chris Minney
Yn wahanol i'w wraig Melonie, does gan Chris ddim gwaed Cymreig ond drwy'r Super Furry Animals mae yntau wedi ymddiddori yng Nghymru a'r Gymraeg.
"Ro'n i wedi dechrau colli diddordeb mewn dilyn cerddoriaeth newydd ar ddiwedd y 90au ac yn bodloni ar y ffynhonnell arferol o fiwsig indie prif ffrwd - Belle & Sebastian, Oasis, The Breeders, Mazzy Star, Portishead a'u tebyg," meddai. "Digon da ond dim byd oedd yn ysbrydoli."
"Yna daeth 'Rings Around the World' a newid yn llwyr y ffordd ro'n i'n meddwl am gerddoriaeth. Upbeat a dôs go helaeth o ffraethineb, roedd fel MDMA i 'nghlustiau.
"Dechreuais edrych ar eu caneuon blaenorol - stwff anhygoel! Yna, mi ddes i at 'MWNG' ac mi gymerodd hi ambell wrandawiad i mi sylweddoli fod y caneuon yn dechrau golygu rhywbeth imi, er nad ydw i'n siarad Cymraeg.
"Ar ôl cael cyfieithu'r caneuon, mi ffeindiais nad oedd fy nehongliad i o'r caneuon yn bell ohoni. Felly, heb wybod yr iaith hyd yn oed, roedd y gerddoriaeth a'r geiriau wedi gallu cyfleu'r ystyr imi.
"A dyna pryd y dechreuodd fy antur i gerddoriaeth Gymraeg ... "
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol fis Medi 2015.