Agor campws £450m Prifysgol Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Abertawe yn agor campws gwyddoniaeth gwerth £450m yn swyddogol ddydd Llun.
Mae wedi cymryd dros ddwy flynedd i'w adeiladu, a bydd yn gartref i bron i 5,000 o fyfyrwyr a 1,000 o staff yng Ngholeg Peirianneg ac Ysgol Reolaeth y brifysgol.
Mae gan Gampws y Bae draeth a phromenâd ei hun.
Mae'r brifysgol wedi dweud eu bod yn gobeithio bydd y campws yn cyfrannu £3bn i'r economi leol dros y 10 mlynedd nesaf.