Teyrngedau yn dilyn damwain yn China

  • Cyhoeddwyd
Robin Evans
Disgrifiad o’r llun,

Robin Llyr Evans yn gwisgo crys rygbi Pwllheli

Mae Clwb Rygbi Pwllheli ymhlith y rhai sydd wedi cyhoeddi teyrngedau i ddyn ifanc a fu farw mewn damwain yn China.

Roedd Robin Llyr Evans, 21 oed, yn gweithio i'r cwmni technoleg chwaraeon "Hawkeye" yn Wuhan, China, pan ddigwyddodd y ddamwain.

Deellir ei fod yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth tenis yn y ddinas pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd Mr Evans yn chwaraewr rygbi talentog ac yn gyn gapten tîm ieuenctid Pwllheli.

Fe gadarnhaodd y Swyddfa Dramor eu bod wedi cysylltu â'r awdurdodau lleol a chyflogwyr Mr Evans "sydd yn ceisio cynorthwyo'r teulu yn ystod y cyfnod anodd yma."

Ar eu cyfrif twitter dywedodd Clwb Rygbi Pwllheli "Mae'r Clwb yn hynod o drist i glywed fod Cyn Gapten ein Tim Ieuenctid - Robin Llyr Evans - wedi ei ladd mewn damwain wrth weithio yn China"

"Mae colli dyn ifanc mor ddisglair, talentog a dymunol yn sioc enfawr i'r gymuned."