Les Misérables: Criw yr Urdd yn perfformio yn y West End

  • Cyhoeddwyd
theatrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd criw Theatr Ieuenctid yr Urdd gyfle i berfformio'r sioe ar lwyfan Theatr y Frenhines yn Soho

Mae criw Theatr Ieuenctid Yr Urdd wedi ymuno â chast sioe Les Misérables ar lwyfan y West End yn Llundain.

Bu rhai o'r cast yn siarad yn egscliwsif gyda Cymru Fyw ar eu ffordd i'r achlysur arbennig i nodi pen-blwydd y sioe gerdd enwog yn 30 oed.

Roedd y fersiwn Gymreig o'r sioe gan ysgolion rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd yn nodi 10 mlynedd ers agor canolfan Gwersyll yr Urdd Bae Caerdydd.

Fe gafodd y criw eu gwahodd i berfformio yn Llundain wedi i gynhyrchydd y sioe yn Llundain, Cameron Mackintosh, fynd i ymarferion cynhyrchiad yr Urdd yn ystod yr haf.

Yn ystod y perfformiad yn Llundain nos Iau fe ymunodd 130 o aelodau'r Urdd â'r perfformwyr gwreiddiol ar lwyfan Theatr y Frenhines.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y sioe ar 29, 30 a 31 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Ymysg y sêr ar y llwyfan roedd pump o'r rhai sydd wedi chwarae rhan Jean Valjean yn y cynhyrchiad o'r blaen, gan gynnwys y Cymro John Owen Jones.

Dywedodd Siân Eirian, cyfarwyddwr y prosiect: "Roedden ni wedi cyffroi o glywed fod Cameron yn bwriadu ymweld â'r ymarferion ac yn ffyddiog y byddai'n cael ei blesio gan y cast o 130.

"Roedd cannoedd o bobl ifanc wedi ymgeisio am rannau yn y sioe ond dim ond 130 o'r perfformwyr gorau gafodd eu dewis.

"Roedd yn rhaid i ni gadw'r perfformiad yn Llundain yn gyfrinach gan mai ni oedd y gwestai arbennig ar gyfer y noson - roedd yn dipyn o dasg gan fod cynifer o'r bobl ifanc wedi cyffroi."

Disgrifiad o’r llun,

Cefin Roberts, cyd-sylfaenydd Cor Glanaethwy, yw cyfarwyddwr sioe ysgolion Les Misérables.

Un oedd yn y perfformiad i ddathlu 20 mlynedd Les Mis, a hynny ddegawd yn ôl, yw Rhidian Marc o Gaerdydd.

Roedd yn aelod o gast sioe Theatr Ieuenctid yr Urdd bryd hynny a chafodd criw dethol o'r sioe fynd i'r West End i berfformio ar gyfer y dathliad bryd hynny.

Mae Rhidian wedi perfformio yn nhaith y sioe broffesiynol o amgylch Prydain, wedi serennu yn fersiwn ffilm o'r sioe gyda rhai o sêr mwya'r sgrin fawr fel Hugh Jackman, Russell Crowe ac Anne Hathaway, a chwarae rhan Enjolras yn y sioe lwyfan wreiddiol yn Llundain.

Disgrifiad o’r llun,

Rhidian Marc ym mherfformiad yr Urdd 10 mlynedd yn ôl ac ar lwyfan y sioe yn fwy diweddar

Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw fod y ffaith ei fod wedi cael y cyfle i berfformio ar lwyfan y West End 10 mlynedd yn ôl wedi bod yn "allweddol" wrth geisio gyrfa ar y llwyfan.

"Roedd e'n brofiad anhygoel i fachgen 17 oed, cael camu ar lwyfan mawr fel hyn am y tro cynta gyda gwisgoedd, set a goleuadau go iawn.

"Roedd y ffaith ein bod wedi cael y cyfle yn golygu mod i'n gwneud contacts yn y maes.

"Ar ôl graddio o'r Central School of Speech and Drama fe ges i gyfweliad i ymuno ag ensemble y sioe oedd yn mynd ar daith a, heb os, y profiad yma oedd wedi agor y drws i mi.

"Roedd yn wirioneddol yn gyfle gwych i rywun oedd â'i fryd ar yrfa ym myd y theatr."

Bydd y sioe ysgolion ar 29, 30 a 31 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.