Lluniau: Cymry du byd y campau // Pictures: Wales's black sports stars

  • Cyhoeddwyd

Mae mis Hydref yn gyfle i gydnabod cyfraniad pobl ddu i ddiwylliant a chymunedau Cymru.

Fel rhan o ddathliadau Mis Pobl Dduon Cymru, dolen allanol mae Cymru Fyw wedi casglu lluniau o rai o'r sêr chwaraeon du amlycaf sydd wedi dod â balchder i'n gwlad dros y degawdau.

October is a time to celebrate Black History Month Wales, dolen allanol. It's an opportunity to appreciate the contribution of black people to the cultural and civic life of Wales.

Here's a gallery of some of the famous black sports stars who have made Wales proud over the decades.

Disgrifiad o’r llun,

Billy Boston o Gaerdydd. Chwaraeodd 488 o gemau rygbi'r gynghrair dros Wigan rhwng 1953-1968, ac enillodd 31 o gapiau dros Brydain. // Billy Boston from Tiger Bay, Cardiff, was a stalwart of Wigan's rugby league success in the 1950s and 1960s, playing 488 times for the club. He also represented Great Britain on 31 occasions.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr amddiffynnwr George Berry, a anwyd yn yr Almaen, bum cap dros Gymru rhwng 1979-1983. Chwaraeodd y rhan fwyaf o'i yrfa dros Wolverhampton Wanderers a Stoke City. // German-born defender George Berry won five caps for Wales between 1979-1983. He played most of his club football for Wolverhampton Wanderers and Stoke City.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bocsiwr Steve Robinson yn gweithio yn siop Debenhams yng Nghaerdydd cyn iddo ennill Pencampwriaeth Pwysau Plu WBO y byd yn 1993, ac hynny gyda deuddydd o rybudd. Collodd ei deitl yn erbyn Naseem Hamed ym mis Medi, 1995. // Steve Robinson was a storeman in Cardiff's Debenhams store before becoming WBO Featherweight Champion, taking the fight on two days notice. He made seven defences before losing to Naseem Hamed on September 30, 1995.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Colin Jackson yn bencampwr Byd, y Gymanwlad ac Ewrop yn y ras 110 metr dros y clwydi ond bu'n rhaid iddo fodloni ar fedal arian yn y Gemau Olympaidd yn Seoul yn 1988. // Colin Jackson was a World, Commonwelath and European champion in the 110 metre hurdles, but had to settle for silver in the Olympic Games in Seoul in 1988.

Disgrifiad o’r llun,

Fel Colin Jackson, roedd Nigel Walker yn wibiwr dros y clwydi, ac fe roedd yn nhîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Los Angeles yn 1984. Trodd at rygbi ac enillodd 17 o gapiau dros Gymru rhwng 1993 ac 1998. // Nigel Walker was a hurdling star in the Great Britain team at the 1984 Olympics before switching to rugby. The winger represented Wales 17 times.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jamie Baulch fedal aur yn y 400m ym Mhencampwriaethau Dan Do y Byd yn 1998. Enillodd arian ac efydd yn y ras gyfnewid yng ngemau'r Gymanwlad, aur ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop, ac arian yng ngemau Olympaidd Atlanta 1996. // Jamie Baulch won gold in the 400m at the 1998 World Indoor Championships. He specialised in the relay and won silver and bronze at the Commonwealth Games, gold in the European and World Championships and silver at the 1996 Atlanta Olympics.

Disgrifiad o’r llun,

Er mai yn y West Midlands y cafodd y chwaraewr rheng-ôl ei eni, roedd o'n gymwys i chwarae i Gymru oherwydd ei fod wedi byw yma am fwy na thair blynedd. // Sutton Coldfied-born Colin Charvis was Wales rugby captain who scored 22 tries for his country - quite a feat for a forward.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr ymosodwr Rob Earnshaw ei eni yn Zambia a symudodd i Bedwas ger Caerffili gyda'i fam pan roedd yn fachgen ifanc. Enillodd 59 o gapiau dros Gymru gan sgorio 16 gôl. // Zambian-born but raised in Bedwas near Caerphilly - former striker Rob Earnshaw scored 16 times for Wales in 59 appearances.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Roz Richards o Gwm Rhymni wedi cynrychioli Cymru yn athletau ac yn hyfforddwr adnabyddus. Mae hi bellach yn gweithio fel rhan o dîm hyfforddi y Western Bulldogs ym Mhêl-droed Aussie Rules (AFL). // Roz Richards was a talented athlete who now is a fitness coach for Aussie Rules team Western Bulldogs in Melbourne.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Christian Malcolm o Gasnewydd yn bencampwr ieuenctid y byd yn 1998 dros 100m a 200m. Enillodd fedal arian yng Ngemau y Gymanwlad ac ym Mhencampwriaethau Ewrop. // Athlete Christian Malcolm from Newport was World Junior Champion in the 100m and 200m disciplines, and won silver at the Commonwealth Games and European Championships.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gapten Cymru ac Abertawe, Ashley Williams, arwain y genedl i Bencampwriaethau Euro 2016 yn Ffrainc yr haf nesaf. // Tamworth-born defender Ashley Williams is expected to lead the nation's football team at the European Championships in France next summer.