Galw am ymchwiliad i gontract cwmni preifat dadleuol â bwrdd iechyd

MeddygfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o feddygfeydd teulu eisoes wedi cael eu trosglwyddo'n ôl i fyrddau iechyd gan eHarley Street

  • Cyhoeddwyd

Mae gwleidyddion wedi galw am ymchwiliad i fwrdd iechyd a'u perthynas â chwmni rheoli meddygon teulu.

Mae'r rhan fwyaf o'r meddygfeydd teulu sy'n cael eu rheoli gan eHarley Street yng Nghymru wedi cael eu trosglwyddo'n ôl i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dilyn pryderon ynghylch diogelwch, staffio a chyflenwad.

Dywedodd gweinidogion Llafur a gwleidyddion Torfaen, Lynne Neagle a Nick Thomas-Symonds, eu bod yn dal i glywed cwynion am Ganolfan Feddygol Pont-y-pŵl - un o dair meddygfa sydd ar ôl gan y cwmni yn ardal y bwrdd iechyd.

Mae'r cwmni yn honni eu bod yn cael eu targedu oherwydd eu bod wedi'u lleoli yn Lloegr.

Dywedodd y bwrdd iechyd, sydd wedi bod yn monitro'r feddygfa, nad ydyn nhw wedi "nodi unrhyw dorri cytundebau na phryderon diogelwch".

Cafodd y cwmni rheoli meddygon teulu ei feirniadu gan gleifion, meddygon, a hyd yn oed y prif weinidog ar ôl i BBC Cymru ddatgelu pryderon ynghylch sut roedd y meddygfeydd yn cael eu rhedeg.

Mae galwadau am ymchwiliad yn dyddio'n ôl i'r llynedd pan gwynodd cleifion - rhai â salwch terfynol - am drafferthion i gael apwyntiadau a thriniaethau mewn meddygfeydd sy'n gysylltiedig ag eHarley Street.

Ar un adeg, roedd eHarley Street, sydd wedi'i lleoli yn Swydd Gaerlŷr, yn cefnogi naw practis yng Nghymru o bell - wyth yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Er bod pump wedi cael eu trosglwyddo'n ôl, mae eHarley Street yn dal i reoli Meddygfa Gelligaer, ger Ystrad Mynach, Sir Caerffili, a Phractis Meddygol Llyswyry yng Nghasnewydd, yn ogystal ag ym Mhont-y-pŵl, sy'n gwasanaethu tua 17,000 o gleifion.

Mae meddygfa yng Nghaerdydd a oedd yn cael ei reoli gan y bartneriaeth hefyd wedi cael ei drosglwyddo'n ôl i'r bwrdd iechyd.

Lynne Neagle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lynne Neagle ei bod yn dal i glywed cwynion am Ganolfan Feddygol Pont-y-pŵl

Gwnaeth Ms Neagle, Aelod Seneddol Torfaen ac ysgrifennydd addysg Cymru, y cais ar y cyd â Mr Thomas-Symonds, AS yr etholaeth a gweinidog cysylltiadau UE Llywodraeth y DU.

Ysgrifennon nhw at y corff gwarchod gwariant cyhoeddus, Archwilio Cymru, yn anfodlon â chanlyniad 10 cyfarfod gyda'r bwrdd iechyd, a ddywedodd wrthyn nhw nad oedd wedi "nodi unrhyw bryderon diogelwch cleifion uniongyrchol".

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y gwleidyddion: "O ystyried y misoedd sydd wedi mynd heibio, a phryderon parhaus y cyhoedd, nid ydym yn credu y bydd yr ymateb hwn yn rhoi'r lefel o sicrwydd sydd ei hangen ar etholwyr."

Dywedon nhw fod eu llythyr at y corff gwarchod yn galw ar yr archwilydd cyffredinol i edrych i "ymgysylltiad y bwrdd iechyd ag eHarley Street a rheolaeth ddilynol y contractau".

Ychwanegon nhw nad oedden nhw'n beirniadu'r staff yn y ganolfan feddygol o gwbl, "yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw'n gweithio gyda llawer o ymroddiad, yn aml o dan yr hyn rydyn ni'n ei ddeall sy'n amgylchiadau anodd".

Y cwmni'n 'cael ei dargedu'

Dywedodd eHarley Street fod y gwleidyddion wedi parhau i "godi'r mater drwy'r wasg wrth wrthod nifer o gynigion am ddeialog adeiladol".

"Mae'n digwydd yng nghyd-destun blwyddyn cyn yr etholiad, gyda'r dirwedd wleidyddol yng Nghymru yn newid yn gyflym," ychwanegodd.

Cwynodd y bartneriaeth meddygon teulu am "dan-ariannu cronig, fformwlâu ariannu hen ffasiwn a burn-out y gweithlu" yng Nghymru a honnodd eu bod wedi gwario "arian personol a phreifat i sefydlogi gweithrediadau a recriwtio staff clinigol".

Croesawodd gyfranogiad Archwilio Cymru, gan ychwanegu: "Mae barn gynyddol bod y bartneriaeth yn cael ei thargedu, o leiaf yn rhannol, oherwydd ei fod yn ddarparwr o Loegr sy'n gweithredu yng Nghymru."

Mewn ymateb, dywedodd y ddau wleidydd nad ydyn nhw'n gwneud "unrhyw ymddiheuriad o gwbl, fel cynrychiolwyr etholedig, am wneud ein gwaith o sefyll dros ein hetholwyr".

Y bwrdd iechyd 'heb nodi pryderon diogelwch'

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "parhau i weithio'n agos gyda'r bartneriaeth, trwy drefniadau monitro gwell, mewn perthynas â'r tri phractis i sicrhau cydymffurfiaeth gytundebol a darpariaeth barhaus o wasanaethau gofal sylfaenol hygyrch".

Ychwanegodd: "Nid yw'r monitro gwell wedi nodi unrhyw dorri cytundebau na phryderon diogelwch."

Dywedodd Archwilio Cymru eu bod "eisoes wedi gwneud gwaith i gael gwell dealltwriaeth o sut mae'r bwrdd iechyd yn rheoli'r pryderon maen nhw wedi'u nodi".

"Unwaith y bydd y gwaith cychwynnol hwnnw wedi'i gwblhau, bydd yr archwilydd cyffredinol yn penderfynu a oes angen unrhyw waith archwilio pellach ar y materion hyn."

Croesawodd y ddau wleidydd ddull Archwilio Cymru a dywedodd eu bod yn edrych ymlaen at glywed gan yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton "maes o law ar ôl iddo benderfynu ar y camau gweithredu nesaf".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o bryderon ynghylch Meddygfa Pont-y-pŵl, ond bod y bwrdd iechyd yn "gyfrifol am reoli cydymffurfiaeth gytundebol ac unrhyw gefnogaeth angenrheidiol i'r practis".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.