Germaine Greer a thrawsrywioldeb

  • Cyhoeddwyd
Germaine

Mae'r ymgyrchydd Germaine Greer wedi cynhyrfu'r dyfroedd ers degawdau gyda'i sylwadau am hawliau merched, ond yn ddiweddar ei barn am bobl trawsrywiol sydd wedi codi gwrychyn.

Mae rhai yn galw ar Brifysgol Caerdydd i'w gwahardd rhag traddodi araith ar 18 Tachwedd gan ei bod yn dadlau fod merched trawsrywiol ddim yn ferched mewn gwirionedd.

Beth yw teimladau'r gymuned drawsrywiol yng Nghymru am ddaliadau Ms Greer? Mae Rona Rees o Drefach, Sir Gaerfyrddin, yn berson trawsrywiol:

'Gwahanol'

O oedran ifanc iawn o'n i'n gwybod bo fi'n wahanol, ac o'n i ddim yn gwybod beth i'w wneud ar y pryd, nôl yn y 1950au a'r 60au. Yna pan es i i'r coleg nes i ddysgu mwy a dechrau deall mwy am sut berson o'n i, a lle oeddwn i eisiau bod.

O'n i'n gwybod bod gen i ddim diddordeb mewn dynion, ac felly doeddwn i ddim yn hoyw, ond yn gwybod bod rhywbeth yn wahanol.

Ar ôl blynyddoedd fe ffeindiais The Beaumont Society, dolen allanol, grŵp sy'n cynnig cefnogaeth i'r gymuned drawsrywiol.

Mi es i gyfarfodydd yn Llundain ac yna teimlo fy mod wedi ffeindio fy ffordd. Doeddwn i ddim yn gallu dod mas yn llwyr, achos doeddwn i ddim eisiau fy nhad ffeindio mas, felly ro'n i'n cadw y rhan yna o fy mywyd bant yn Lloegr.

Brwydro am hawliau

O ran hawliau heddiw, maen nhw wedi dod i ni drwy'r ffordd y gwnaeth y genhedlaeth flaenorol frwydro. Dwi'n parhau i frwydro er mwyn gwneud pethau hyd yn oed yn well i'r genhedlaeth nesaf.

Fe ge's i sioc pan ddes i 'nôl i Gymru. Fe ge's i gefnogaeth gan bawb - ge's i ddim gair drwg gan neb.

Yn bersonol, dwi erioed 'di cael profiad o hate crime, ac alla i ddim meddwl am lawer o ffrindiau, sydd yr un fath â fi, sydd wedi cael profiadau drwg chwaith.

Ffynhonnell y llun, Picasa
Disgrifiad o’r llun,

Rona Rees, sy'n byw yn Drefach

Angen cywiro Greer

Does dim angen i neb gymryd sylw o sylwadau Germaine Greer, gan fod hi ddegawdau tu ôl yr amser. Mae'r meddygon a'r arbenigwyr yn gwrth-ddweud yr hyn y mae hi'n ddweud yn llwyr - mae hi'n hollol anghywir.

Y ffordd orau i ddelio efo hi yw ei hanwybyddu hi. Mae angen iddi gael dweud ei dweud, mae ganddi berffaith hawl i wneud hynny, a ddyle ni ddim ei stopio hi. Mae angen herio yr hyn mae hi'n ei ddweud a'i chywiro hi.

Byddwn i ddim yn ei gwahardd hi rhag siarad ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ganddi berffaith hawl i ymddangos yno.

Ond eto mae'n iawn i fyfyrwyr brotestio'n barchus er mwyn dod â sylw at ba mor anghywir yw hi. Does dim angen bod yn fygythiol a gweiddi arni, mae rhaid rhoi pob chwarae teg.

Ffynhonnell y llun, M D Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rona Rees yn credu y dylai Germaine Greer gael y cyfle i ddarlithio ym Mhrifysgol Caerdydd

Mewn gwirionedd dwi'n gobeithio bydd 'na neb fewn yna yn gwrando arni hi! Bydde hynny'n dangos iddi pa mor out of touch yw hi 'da chymdeithas.

Y ffordd i daclo rhagfarn yw cefnogi pobl sydd yn teimlo bod ganddyn nhw broblemau a'u helpu i ffeindio eu ffordd yn y byd.

Addysg yw'r prif beth, er mwyn dangos i bobl sut mae trin ei gilydd gyda pharch.