Cylchffordd Cymru: Cymeradwyo'r cam nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r criw sy'n gyfrifol am fenter Cylchffordd Cymru'n dweud eu bod nhw wedi goresgyn y rhwystr ola' ym mhroses cynllunio'r trac rasio yng nghymoedd de Cymru.
Fe gafodd y cwmni ganiatád i ddi-gofrestru tir comin - rhywbeth sy'n hanfodol i barhâd y prosiect, yn ôl y prif weithredwr.
Fe ddiolchodd Michael Carrick i awdurdodau lleol, Aelodau Cynulliad a'r gymuned am gefnogi'r cynllun.
Dywedodd fod "cael caniatád i ddi-gofrestru'r tir comin yn garreg filltir bositif arall i Gylchffordd Cymru."
Ychwanegodd y bydd gan y fenter y gallu "i greu miloedd o gyfleoedd am swyddi, denu rhagor o fuddsoddiad hir-dymor ac adfywio Blaenau Gwent a de Cymru."
Fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod y Dirpwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd wedi ysgrifennu at y cwmni i gymeradwyo'r cais yn ddibynnol ar amodau.
Roedd arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, y Cynghorydd Hedley McCarthy, yn croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud:
"Fel cyngor rydym yn gefnogol i ddatblygiad Cylchffordd Cymru a'r buddion allai ddod i Flaenau Gwent a'r ardal.
"Rydym yn edrych ymlaen at fedru gweithio'n agos gyda'r datblygwr ar y cynllun cyffrous yma."
Ychwanegodd aelod seneddol Blaenau Gwent Nick Smith: "Yn dilyn blynyddoedd rhwystredig mae hwn yn gam mawr ymlaen tuag at ddechrau gweithio ar y safle.
"Gallai'r gylchffordd olygu newid mawr i Flaenau Gwent gan ddod â swyddi angenrheidiol. Mae'r datblygwr yn dweud bod y cyllid yn ei le... gadewch i ni obeithio y bydd y cynllun yn cael ei wireddu o'r diwedd."
Gwrthwynebiad
Ond nid pawb sy'n fodlon gyda'r cyhoeddiad. Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent: "Rydym yn deall bod angen swyddi ac adfywio economaidd yn yr ardal leol ac rydym yn rhan o hynny.
"Ond rydym yn gobeithio bod y ffigyrau am y buddion economaidd a nifer y swyddi a roddwyd gan y datblygwr yn gywir o ystyried yr effeithiau amgylcheddol parhaol.
"Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda'r datblygiad ar dir comin yn ein siomi, yn enwedig gan fod yr Arolygaeth Gynllunio wedi cydnabod effaith niweidiol iawn y datblygiad ar yr amgylchedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd2 Medi 2014
- Cyhoeddwyd13 Awst 2014