Lansio cynllun newydd i drwyddedu landlordiaid

  • Cyhoeddwyd
tai

Bydd Llywodraeth Cymru'n lansio cynllun newydd ddydd Llun fydd yn gorfodi landlordiaid i gael trwydded i rentu'u heiddo.

Mae cynllun Rhentu Doeth Cymru yn dangos bod Cymru'n "arwain y ffordd", yn ôl y Gweinidog Tai, Lesley Griffiths.

Ond mae AC Ceidwadol yn dweud nad ydi'r llywodraeth yn gwrando ar fusnesau a landlordiaid wrth gyflwyno newidiadau i'r sector rhentu breifat.

Mae'r gweinidog yn dweud mai bwriad y cynllun yw atal perchnogion ac asiantaethau rhag twyllo'u tenantiaid.

O fewn y flwyddyn nesaf, bydd rhaid i bob landlord preifat gofrestru eu hunain a'u heiddo, a phrofi eu bod yn addas i ennill trwydded neu ddewis asiantaeth drwyddedig i reoli'r eiddo drostyn nhw.

Bydd rhaid i landlordiaid trwyddedig hefyd gwblhau hyfforddiant.

'Arferion da'

Mae Ms Griffiths yn dweud mai'r cynllun yw'r cyntaf o'i fath yn y DU, ac yn pwysleisio ei bod hi'n bwysig fod gan y sector rhentu breifat "arferion da", gan fod un tŷ o bob saith yng Nghymru'n cael ei rhentu'n breifat.

Yn ôl Ms Griffiths: "Bydd y newidiadau'n atal landlordiaid twyllodrus rhag rheoli a gosod eiddo.

"Bydd hyn yn helpu i warchod tenantiaid yn y sector rhentu preifat - gan gynnwys myfyrwyr, unig-rieni a theuluoedd ifanc.

"Bydd Rhentu Doeth Cymru hefyd yn cefnogi landlordiaid ac asiantau da drwy eu helpu i wybod am eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol, a gwella enw da'r sector cyfan."

Ond mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn feirniadol o bolisi tai'r llywodraeth ac yn dweud fod y llywodraeth wedi methu â thrafod gyda landlordiaid.

"Mae'r cynllun gwallus yma'n bell o fod yn 'ddoeth', mae'n targedu landlordiaid a bydd yn cosbi'r rheiny sy'n gwneud yn dda," meddai.

"Mae mudiadau landlordiaid wedi gwneud cynigion cyson i gydweithio gyda'r llywodraeth Lafur i ddatblygu cynllun fyddai'n ysgogi'r ddarpariaeth o dai safonol i'w rhentu, yn targedu landlordiaid gwael, ac yn rhoi llais i denantiaid.

"Fe benderfynodd gweinidogion Llafur eu hanwybyddu, ac felly maen nhw wedi anwybyddu syniadau fyddai wedi gwneud gwahaniaeth go iawn."

Dibyniaeth

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Dai: "Mae gan y sector rhentu preifat rôl gynyddol bwysig o ran diwallu anghenion tai a chartrefi Cymru.

"Drwy'r cynllun Rhentu Doeth Cymru, bydd cynghorau lleol yn gallu pennu a nodi pob eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat yn eu hardal.

"Mae'r cynllun newydd yn ychwanegiad da at yr opsiynau gorfodi sydd ar gael yn barod - a'r gobaith yw y bydd yn annog mwy o gydweithio rhwng cynghorau lleol a landlordiaid ac asiantau i wella gwasanaethau i denantiaid yn y sector rhentu preifat yng Nghymru."

Cyngor Dinas Caerdydd fydd yn gyfrifol am drwyddedu'r cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Bob Derbyshire y bydd y cynllun yn "codi safonau yn y sector rhentu preifat ac mae hynny'n bwysig iawn gan ei fod yn sector y mae llawer o bobl yn dibynnu arno".