Gwyliau ysgol: 'Dryswch' dros roi dirwy i rieni

  • Cyhoeddwyd
Plant

Mae pryderon bod y drefn o roi dirwy i rieni sy'n mynd a'u plant ar wyliau yn ystod tymor ysgol yn achosi dryswch.

Yn ôl cadeirydd un o bwyllgorau'r Cynulliad mae camddealltwriaeth ymysg cynghorau Cymru ynghylch y sefyllfa.

Mae cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru yn dangos bod nifer y dirwyon yn amrywio, yn ddibynnol ar le mae unigolyn yn byw.

Ym mis Medi y llynedd, fe roddodd Llywodraeth Cymru'r hawl i benaethiaid roi hyd at 10 diwrnod o wyliau'r flwyddyn yn ystod tymor ysgol.

Fe gafon nhw'r grym hefyd i roi dirwy i rieni a gymerodd wyliau heb ganiatâd.

Dirwyon yn amrywio

Mae'r Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad wedi bod yn ymchwilio i'r sefyllfa yn dilyn miloedd o gwynion gan rieni.

Yn Rhondda Cynon Taf fe gafodd rhieni ddirwyon o dros £14,000 ym mhum mis cyntaf y flwyddyn tra'r ffigwr yng Nghaerdydd oedd £22,000 dros yr un cyfnod.

Ni wnaeth wyth cyngor roi unrhyw ddirwy i rieni.

Mae galwadau i ddiddymu'r drefn. Fe aeth Bethany Walpole-Wroe o Lanybydder a deiseb gyda 18,000 o enwau i'r Cynulliad gan ddweud bod y polisi yn annheg.

Roedd hi'n dadlau bod cost gwyliau yn uwch yn ystod gwyliau'r ysgol a bod llawer o rieni yn methu cael amser i ffwrdd o'r gwaith ym mis Awst.

Pryderon

Yn ôl llythyr sydd wedi dod i law BBC Cymru, mae cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad, William Powell, wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn mynegi ei bryderon.

Mae Mr Powell yn honni bod dryswch ymysg cynghorau am y sefyllfa gyfreithiol o gymryd gwyliau yn ystod tymor ysgol.

Mae hefyd yn dweud bod nifer o awdurdodau yn cynghori ysgolion yn anghywir i ganiatáu gwyliau yn ystod y tymor mewn amgylchiadau "arbennig" ac yn gofyn i rai penaethiaid i beidio cymeradwyo hynny o gwbl.

Fe all dirwyon sydd wedi eu rhoi i rieni fod yn annheg ac yn anghyfreithlon, meddai Mr Powell.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Addysg wedi bod yn glir iawn am sut ddylai trefniadau ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor gael eu gweithredu ledled Cymru.

"Bydd y gweinidog yn ysgrifennu at awdurdodau addysg, awdurdodau lleol ag ysgolion yng Nghymru i bwysleisio eu rôl mewn sicrhau bod ein polisi gwyliau yn ystod y tymor yn cael ei weithredu yn gywir ac i amlygu'r angen i roi gwybodaeth glir i rieni."