Ateb y Galw: Phylip Harries

  • Cyhoeddwyd
Harries

Yr wythnos yma yr actor Phylip Harries sy'n Ateb y Galw, wedi iddo gael ei enwebu gan Mari Gwilym yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwylio George Best yn sgorio yn erbyn Benfica yn ffeinal Cwpan Ewrop 1968.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Martina Navratilova. O'n i'n dwli chwarae tenis, a phan ddaeth hi i boblogrwydd gynta', roedd hi'n biwtiffwl.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cyfadde' bo fi'n ffansio Martina Navratilova.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Heddi. Rwy'n llefen bob dydd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Chwyrnu, pigo'n nhrwyn.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Yr Wyddgrug. Yn Eisteddfod yr Wyddgrug 1984 es i mas gyda fy ngwraig Mags gynta', a fanna 'wi wedi bod yn treulio y 12 mlynedd diwethaf bob Nadolig fel y Dame yn panto Theatr Clwyd.

Disgrifiad o’r llun,

Phyl yn chware Dolly Dumplings ym mhantomeim 'Jack and the Beanstalk'

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhriodas. Roedd y brecwast priodas yn yr hen stadiwm genedlaethol yng Nghaerdydd, ac ar ddiwedd y noson roedd Mags a finnau yn llwgu felly aethon ni i'r Red Onion i gael byrgar, gyda fi yn fy top hat a tails a Mags yn ei ffrog briodas goch sidan.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Tew, byr, gwalltog.

Beth yw dy hoff lyfr?

Newid o ddydd i ddydd, ond roedd trioleg Stieg Larsson sy'n cynnwys 'The Girl with the Dragon Tattoo' wedi apelio'n fawr.

Disgrifiad o’r llun,

Ydych chi'n cofio Phyl yn chwarae rhan Ken Coslett yn 'Pobol y Cwm'?

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Gwasgod.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Midnight in Paris' - Woody Allen.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Joe Pesci.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Phylip a Joe Pesci mor debyg!

Dy hoff albwm?

'Between the Lines' - Janis Ian.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Pwdin - crème brûlée.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Oliver Hardy. Oedd e'n foi doniol iawn, yn naturiol o ddoniol, ddim yn cymryd pethe' yn rhy ddifrifol ac yn mwynhau gêm o golff.

Disgrifiad o’r llun,

Nid Laurel and Hardy... y Keystone Cops efallai? Phyl yn chwarae rhan Dogberry yn nrama Shakespeare 'Much Ado about Nothing'

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Ieuan Rhys