Yr arwyr rhan amser
- Cyhoeddwyd
Mae pobl Bangor yn dal i siarad am y diwrnod hyd heddiw - y diwrnod y daeth cewri Napoli i Ffordd Farrar a cholli yn erbyn y tîm lleol o chwaraewyr rhan-amser.
Ar 5 Medi 1962 cafodd y byd pêl-droed ei ysgwyd i'w seiliau gan fuddugoliaeth ryfeddol y tîm o ogledd Cymru. Mae'r Dinasyddion wedi bod ar sawl antur Ewropeaidd arall ers hynny.
Ar 20 Chwefror 2016 mae arddangosfa wedi ei threfnu gan Gymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Bangor yn agor yn Storiel, amgueddfa ac oriel y ddinas, yn olrhain anturiaethau'r clwb yng nghystadlaethau Ewrop dros y blynyddoedd.
Fel tamaid i aros pryd, dyma i chi oriel luniau sy'n cyfeirio at y dair gêm arwrol chwaraeodd Bangor yn erbyn Napoli yn 1962. Diolch i glwb Pêl-droed Dinas Bangor am gael cyhoeddi'r lluniau.

Ennill Cwpan Cymru yn 1961/62 roddodd y cyfle i glwb pêl-droed Bangor chwarae yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop y tymor canlynol

Rhai o'r chwaraewyr a'u partneriaid yn dathlu'r fuddugoliaeth yng Nghwpan Cymru. Ond pwy fyddai eu gwrthwynebwyr yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop?

Roedd Ffordd Farrar yn orlawn ar 5 Medi 1962 ar gyfer ymweliad AC Napoli yng nghymal cyntaf, rownd gyntaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop

Y ddau dîm i wynebu ei gilydd yn y rhaglen swyddogol

Y cefnogwyr yn llifo i'r maes ar ôl buddugoliaeth hanesyddol Bangor o 2-0 yn erbyn Napoli. Roedd Roy Matthews wedi rhoi'r tîm cartre ar y blaen ychydig cyn hanner amser. Sgoriodd Ken Birch o'r smotyn i ddyblu'r fantais ar gyfer yr ail gymal fyddai'n cael ei chwarae yn yr Eidal

"Napoli yn methu yn erbyn tîm di-nod o Brydain". Pennawd di-flewyn-ar-dafod papur newydd y Corriere Dello Sport ar ôl y canlyniad annisgwyl

Eddie Murphy, Bill Souter a Iorys Griffiths ar ben y byd cyn hedfan i Napoli ar gyfer yr ail gymal

Rhai o gewri Napoli ddaeth yn agos iawn at gael eu curo gan chwaraewyr rhan-amser Bangor

Yn yr ail gymal yn Napoli ar Medi 26, o flaen torf o 80,000, mi lwyddodd y tîm cartref i ganslo mantais Bangor gyda Mariani a Ronzon yn ei gwneud hi'n 2-2 dros y ddau gymal. Roedd hi'n ymddangos mai'r Cymry fyddai'n ennill lle yn y rownd nesa ar ôl i Jimmy McAllister sgorio. Ond llwyddodd Pornella i sgorio drydedd gôl i'r Eidalwyr a sicrhau y byddai'r ddau glwb yn gorfod chwarae eto.

Yn Highbury, cartref Arsenal, y daeth yr antur i ben i'r gwŷr o Ogledd Cymru gyda Napoli yn ennill o 2-1. Unwaith eto Jimmy McAllister sgoriodd i Fangor. Er gwaetha'r siom, mae pobl hyd heddiw yn dal i sôn am y pnawn o Fedi yn 1962 pan lwyddodd y tîm rhan-amser o gynghrair Sir Gaer i drechu'r cewri o'r Eidal.

Roedd camp Bangor yn stori 'Roy of the Rovers' go iawn, ond yng nghomic 'The Hornet' y cafodd y stori dylwyth teg yma ei chyhoeddi yn 1964