Monitor newydd i'r Gymraeg ym Mhatagonia
- Cyhoeddwyd
Mae Rhisiart Arwel wedi ei benodi'n Fonitor Academaidd newydd Prosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia.
Bydd yn olynu Gareth Kiff yn y gwaith o oruchwylio safonau dysgu a datblygiad y cynllun yn nhalaith Chubut yn y Wladfa.
Yn wreiddiol o Ddinbych, mae Rhisiart Arwel ar hyn o bryd yn gweithio fel Swyddog Cymraeg y Gweithle yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd, ac fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion.
Mae ganddo brofiad yn barod o weithio ym Mhatagonia. Yn ystod 2013, bu'n gweithio fel swyddog datblygu a thiwtor Cymraeg ym Mhatagonia fel rhan o Brosiect yr Iaith Gymraeg.
Dathlu'r 20 'yn gyfle i edrych ymlaen'
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at "gael cydweithio gyda thîm brwdfrydig a gweithgar y prosiect, yma yng Nghymru ac yn Ariannin".
Ychwanegodd: "Mae gen i brofiad helaeth o ddysgu Cymraeg ac o fyw a gweithio yn y Wladfa, a bydd hyn yn amlwg yn gaffaeliad mawr wrth imi ymgymryd â'r gwaith pwysig yma."
Cafodd Prosiect yr Iaith Gymraeg ei sefydlu ym 1997 i hyrwyddo a datblygu'r iaith Gymraeg yn nhalaith Chubut yn Ariannin.
Mae Rhisiart yn gweld dathlu 20 oed y cynllun flwyddyn nesa' yn gyfle i edrych ar bethau o'r newydd.
"Mae'n gyfle i feddwl am ffordd wahanol o wneud pethe a symud pethau 'mlaen," meddai.
"Mae gen i barch mawr at waith a chyfraniad Gareth Kiff, y Monitor blaenorol, a'r her fawr imi fydd datblygu ac adeiladu ar y gwaith pwysig a wnaed gan Gareth.
"Yn ddi-os, mae'n rhaid hefyd cydnabod cyfraniad mawr Robert Owen Jones, y Monitor gwreiddiol, a fu'n gweithio mor frwd a gweithgar am gyfnod hir ers dechrau'r Prosiect."
Bydd yn dechrau ar ei waith yn gynnar yn 2016.