Hanes yn dod yn fyw trwy archif
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfle i gymunedau glywed hen straeon ac i weld sut oedd eu hardaloedd yn edrych flynyddoedd yn ôl pan y bydd cyfres o ffilmiau yn cael eu dangos ar sgrin fawr mewn lleoliadau ar draws Cymru.
Mae'n rhan o brosiect BFI, Prydain ar Ffilm, sydd yn dangos 10,000 o archifau ffilmiau a theitlau teledu ar draws y Deyrnas Unedig. Dechreuodd y cynllun yr haf diwethaf.
Mae'r deunydd i gyd wedi'u digideiddio ac ar gael ar y wê i bobl eu gweld.
Un ffilm sydd yn cael ei dangos i'r cyhoedd yn Llyfrgell Wrecsam fydd gêm bêl droed Cymru ac Iwerddon yn 1906 ar y Cae Ras yn Wrecsam- efallai y gêm bêl droed ryngwladol gynharaf i'w recordio.
Ffilm archif fydd yn cael ei dangos mewn sioe yng Ngasnewydd yw 'July 9th 1953- Coronation Visit of H.M Queen Elizabeth II & H.R.H The Duke of Edinburgh'.
Casnewydd oedd lleoliad cyntaf y Frenhines a Dug Caeredin ar ôl y coroni ac mae'r ffilm yn dangos miloedd o bobl ar y stryd yno yn disgwyl i'w gweld.
Ffilm arall sydd yn rhan o'r casgliad ac fydd yn cael ei dangos yn Abertawe yw 'Swansea Reconstruction' (1950). Lluniau o Abertawe cyn ac ar ôl iddi gael ei bomio yn ystod yr Ail Rhyfel Byd a'r ffordd mae'r dref wedyn yn cael ei hail adeiladu yw deunydd y ffilm yma.
Yn ôl Iola Baines o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru mae pobl wedi mwynhau gwylio'r ffilmiau.
"Rydym wedi datgloi'r archifau sydd yn anhygoel. Bu'r gwaith o ddigideiddio'r ffilmiau yma yn broses faith a chymhleth ond mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol.
"Mae pobl wedi darganfod aelodau'r teulu hyd yn oed ar y ffilmiau. Yn sicr fe fydd y dangosiadau yma yn arbennig iawn gyda'r posibilrwydd o ddarganfod cysylltiadau newydd. Mae'n gyfle gwirioneddol i archwilio ein cymunedau o genhedlaeth y gorffennol yn ogystal â diwylliannau a thraddodiadau sydd wedi hen ddiflannu."
Bydd cerddoriaeth fyw, trafodaeth gan grwpiau hanes lleol ac arddangosfa o'r lluniau sydd yn cyd fynd gyda'r ffilmiau yn rhai o'r trefi.
Castell Nedd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam yw'r lleoliadau lle y bydd y sioeau yn cael eu cynnal yng Nghymru.