Cyfyngu ar gytundebau dim oriau yn y sector gofal?

  • Cyhoeddwyd
Pâr o ddwyloFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ymgynghoriad ar amodau gwaith gweithwyr gofal yn para tan 5 Ebrill

Mae'n bosib y bydd 'na gyfyngu ar ddefnydd o gytundebu dim oriau ar gyfer gweithwyr gofal yng Nghymru er mwyn ei gwneud yn haws recriwtio a chadw staff.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd eisiau sicrhau fod gweithwyr yn cael isafswm cyflog ac maen nhw eisiau i gwmnïau dalu am amser teithio er mwy ymweld â chleientiaid.

Awgrymodd gwaith ymchwil diweddar fod amodau gwaith yn gallu effeithio ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod gofal cymdeithasol cynaliadwy yn ddibynnol ar gael gweithlu sefydlog.

Daw'r ymgynghoriad ar y cynlluniau wedi i Mr Drakeford gomisiynu ymchwil i ffactorau sy'n effeithio ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal, a'r cysylltiad rhwng hyn ac ansawdd gofal yn y cartre'.

'Angen gweithlu cadarn'

Meddai Mr Drakeford: "Mae gofal cymdeithasol cynaliadwy yn dibynnu ar weithlu cadarn sydd wedi'i hyfforddi'n dda. Rwy'n ymwybodol iawn o'r amrywiadau sylweddol yn y gweithlu a'r goblygiadau ar gyfer ansawdd y gofal. Mae'r materion hyn yn arbennig o amlwg mewn gofal cartref.

"Dydy recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref mewn ffordd well ddim yn dasg syml, a bydd angen mynd i'r afael â hyn mewn nifer o ffyrdd. Felly rwy'n awyddus iawn i glywed barn o sawl cyfeiriad. Rwy'n arbennig o awyddus i glywed barn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cartref ac sy'n gweithio yn y maes."

19,500 o weithwyr

Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol y byddai cynnydd mewn isafswm cyflog dros y blynyddoedd nesa' yn rhoi pwysau ychwanegol ar y sector, ond dywedodd y byddai'r ymgynghoriad yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall effaith y cynigion ar gynaliadwyedd ac ymarferoldeb darpariaeth gofal.

Yn ôl amcangyfrifon, mae tua 19,500 o bobl yn gweithio ym maes gofal yn y cartre', gan ddarparu tua 260,000 awr yr wythnos o wasanaeth i 23,000 o bobl.

Mae trosiant staff yn y sector tua 23%, gyda thua 6% o swyddi yn wag ar gyfartaledd.

Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 5 Ebrill 2016.