Ble mae hanes Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Mae plant ysgol Cymru yn clywed mwy am Harri'r Wythfed a'i wragedd nac am Owain Glyndŵr medd Rhys Mwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant ysgol Cymru yn clywed mwy am Harri'r Wythfed a'i wragedd nac am Owain Glyndŵr medd Rhys Mwyn

Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gymru golli un o'i haneswyr blaenllaw, y Dr John Davies. Mae ei gyfrol 'Hanes Cymru' yn cael ei chydnabod fel un o'r cofnodion mwyaf cynhwysfawr o hanes y genedl.

Mewn erthygl i gyd-fynd gyda'i ymddangosiad ar banel Pawb a'i Farn yn Llanrwst ar 11 Chwefror mae Rhys Mwyn yn gofidio nad oes digon o hanes ein cenedl yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion:

'Llusgo traed'

Rwyf yn eistedd ar fwrdd Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA) yng Nghymru (CBA Cymru) ac ar hyn o bryd mae'r Cyngor wrthi'n pwyso ar y Llywodraeth yn San Steffan i dderbyn y ddau brotocol Cytundeb Hâg 1953, ynglŷn â gofalu am dreftadaeth lle mae rhyfel, a bod hyn yn cael ei gynnwys yn yr araith nesa'r Frenhines.

Oherwydd gweithredoedd y corff sy'n cael ei 'nabod fel Islamic State (IS), a'r difrod difrifol maen nhw wedi ei achosi i safle Palmyra yn Syria, mae'n hollol amlwg fod angen ymateb ar frys.

Mae 'na awgrym yn ychwanegiad 1999 i Gytundeb Hâg fod dinistrio safleoedd hanesyddol a diwylliannol yn fwriadol yn cyfateb â throsedd rhyfel.

Anodd rhwystro'r dinistrio gan IS a digon o waith eu bod yn malio am Gytundeb Hâg, ond mae Mike Heyworth, Cadeirydd y CBA, yn atgoffa'r gwleidyddion fod y drafodaeth yma yn parhau ers 2004, ond doedd dim amser senedd wedi ei glustnodi. Mae'r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, wedi gaddo fod hyn am newid.

Llusgo eu traed mae'r gwleidyddion yng Nghymru hefyd. Gofynnodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg ar y pryd, i'r hanesydd Dr Elin Jones baratoi adroddiad ar sut ddylai Hanes Cymru gael ei ddysgu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Bellach Huw Lewis sydd yn gyfrifol am addysg, ac mae o ar fin ymddeol o'r swydd, felly gallwn anghofio am unrhyw ymateb buan, a rhaid aros i weld pwy fydd yn y swydd ar ôl Etholiad y Cynulliad.

Disgrifiad o’r llun,

Oes angen trafod llai ar gestyll Edward I a rhoi mwy o bwyslais ar gestyll y tywysogion Cymreig?

Hanes Cymru a Google

Un o'r cwynion mwyaf cyffredin rwyf yn ei glywed wrth ddarlithio a rhoi sgyrsiau i gymdeithasau hyd a lled y wlad yw fod cymaint heb gael 'Hanes Cymru' yn yr ysgol - dim ond yr arferol Harri Wythfed a'i wragedd.

Efallai wir, ond rwyf yn tueddu i ymateb drwy awgrymu, beth bynnag yw gwendidau'r gyfundrefn addysg, dydi hynny ddim yn eich rhwysro rhag darllen, rhag mynd i grwydro, rhag darllen map OS, rhag edrych ar Google...

Fy nadl bob amser yw fod angen i ni berchnogi Hanes Cymru yn lle cwyno am y Gyfundrefn Addysg, Edward I, 1282, Y Ddeddf Uno a pha bynnag esgus arall cyfleus sydd wrth law.

Rydym yn genedl sydd wedi ein diffinio bellach gan brotest a chwyno yn lle mynd ati i newid pethau - dyma'r ddadl anarchaidd o leiaf - fod newid gwleidyddol hefyd yn gallu digwydd ar lefel bersonol gan yr unigolyn.

Ond, heblaw am chwyldro llwyr, gwleidyddiaeth yw'r ffordd o newid pethau yn gyffredinol, felly mae angen i'r gwleidyddion ym Mae Caerdydd ymateb i rai fel Dr Elin Jones, yn lle tindroi.

Rwyf yn 'anarchydd gwael' sydd yn pleidleisio pob tro - yn y gobaith fod rhywbeth yn newid. Dydy diffyg symud y gwleidyddion ddim yn ysbrydoli cofiwch.

Disgrifiad o’r llun,

Rhys Mwyn

Pawb a'i Farn, S4C, nos Iau, 11 Chwefror, 21:30