Pwy oedd Dewi Sant?

  • Cyhoeddwyd

Dewi Sant yw nawddsant Cymru ac rydyn ni'n dathlu ei fywyd ar 1 Mawrth bob blwyddyn. Ond pwy yn union oedd o?

Gêm 'Beth fyddai eich enw sanctaidd?'

Oriel luniau: Rhai o sêr Cymru yn blant, yn eu gwisg Gymreig

Pwy oedd Dewi Sant a phryd oedd e'n byw?

Roedd yn fynach Celtaidd a oedd yn byw yng Nghymru yn ystod y chweched ganrif. Yn ôl yr hanes Tywysog Ceredigion oedd ei dad, Sant, ac roedd ei fam, Non, yn ferch pendefig lleol ac yn ôl un chwedl, roedd hi'n nith i'r Brenin Arthur.

Pa lefydd sydd yn gysylltiedig â Dewi?

Cafodd ei eni ger Capel Non, sydd heb fod ymhell o Dyddewi. Derbyniodd ei addysg mewn mynachdy yn Hen Fynyw gan fynach dall o'r enw Pawliniws. Arhosodd yn y mynachdy am nifer o flynyddoedd cyn iddo benderfynu mynd i deithio Cymru, a'r cyfandir, yn pregethu'r Efengyl.

Yn fynach, abad ac esgob, tyfodd Dewi yn un o aelodau mwyaf dylanwadol Eglwys Geltaidd y cyfnod, gan ledu neges Cristnogaeth ymysg llwythau paganaidd Prydain.

Sefydlodd fynachlog yn y porthladd Rhufeinig 'Menevia' yn Sir Benfro - yn ddiweddarach daeth y lle hwn yn ddinas gadeiriol wedi ei henwi ar ôl Dewi - Tyddewi.

Disgrifiad o’r llun,

Cadeirlan Tyddewi

Pa wyrthiau wnaeth Dewi gyflawni?

Mae'n debyg mai gwyrth gyntaf Dewi oedd adfer golwg ei athro, Pawliniws. Pan agorodd ei lygaid, y peth cyntaf a welodd oedd cennin pedr.

Beth yw'r cysylltiad gyda Llanddewi Brefi?

Un o'r straeon mwyaf adnabyddus amdano yw pan aeth i'r synod yn Llanddewi Brefi ble roedden nhw'n ceisio penderfynu os oedd o'n addas i fod yn Archesgob Cymru. Roedd tyrfa fawr wedi ymgasglu i'w glywed yn siarad ond gan fod cymaint yno, doedd llawer ohonyn nhw ddim yn ei glywed yn iawn.

Gosododd Dewi hances ar y llawr cyn sefyll arni, ac yn sydyn, cododd bryn bach o dan ei draed gan ei godi fel y gallai pawb ei weld. Mae rhai yn dweud hefyd fod colomen wen wedi glanio ar ei ysgwydd, yn arwydd gan Dduw o'i sancteiddrwydd.

"Gwnewch y pethau bychain..."

Yn ôl yr hanes, roedd dros 100 oed pan fu farw ar 1 Mawrth 589. Cafodd ei bregeth olaf ei chofnodi yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi o'r 14eg ganrif, sydd yn cynnwys ei ddyfyniad enwocaf:

"Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i."

Mae llawer o'r hyn rydym yn ei wybod am Dewi yn dod o waith Rhigyfarch ap Sulien, awdur o'r 11eg ganrif a ysgrifenodd 'Buchedd Dewi'. Gan i waith Rhigyfarch gael ei ysgrifennu dros 500 mlynedd wedi i Dewi farw, mae amheuaeth ynglŷn â pha mor ddibynadwy yw'r hanes.

Disgrifiad o’r llun,

Baner sy'n cael ei chysylltu â Dewi Sant

Pam dathlu ar y 1af o Fawrth?

Mae'n debyg i Ddewi ddod yn nawddsant i'r Cymry am fod cynifer o eglwysi hynafol Cymru wedi eu cysegru iddo, ac roedd y dyddiad yn cael ei nodi fel Dydd Gŵyl Dewi mewn llawysgrifau Gwyddelig o'r 9fed ganrif.

Yn ddiddorol, ef yw'r unig nawddsant o wledydd Prydain a gafodd ei eni yn y wlad mae'n gysylltiedig â hi.

Sut mae'r Cymry'n dathlu Dydd Gŵyl Ddewi heddiw?

Mae gan bobl lawer o ffyrdd gwahanol o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac yng Nghymru, bydd llawer o blant yn gwisgo gwisg Gymreig. Bydd eraill yn gwisgo cennin pedr neu genhinen, yn bwyta cawl cennin ac yn gorymdeithio.

Disgrifiad o’r llun,

'Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon'

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!