Pennod newydd i'r Hen Lyfrgell
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma bydd canolfan Gymraeg newydd yng Nghaerdydd yn agor yn swyddogol i'r cyhoedd.
Wedi'i lleoli yng nghanol y brifddinas, mae'r Hen Lyfrgell yn gartref i saith mudiad gwahanol sy'n cynnig gwasanaethau trwy'r Gymraeg.
Ond mae hi wedi bod yn rhai misoedd o ddisgwyl i'r rhan fwyaf o staff yr Hen Lyfrgell.
Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r ganolfan agor ym mis Tachwedd y llynedd, ac yna ym mis Ionawr eleni, ac er bod rhai gwasanaethau eisoes wedi bod ar gael i'r cyhoedd, bydd yr agoriad swyddogol yn digwydd o'r diwedd ddydd Iau.
Dywedodd Bethan Williams, sydd wedi bod yn ei swydd fel cyfarwyddwr y ganolfan ers mis Tachwedd, mai ei phrif rôl hi yw "cydweithio gyda'r partneriaid i sicrhau fod y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn ateb i'n cwsmeriaid ni".
Wrth rannu ei gweledigaeth gyda Cymru Fyw, meddai: "Mae hi wedi bod yn gyffrous iawn cael gweithio gyda'r partneriaid i gyd ac ry'n ni'n edrych ymlaen at groesawu pobl i mewn.
"Ni'n teimlo fel ein bod ni yn ei chanol hi yn enwedig pan mae'r rygbi ymlaen!
"Mae 'na elfennau wedi bod ar agor ers rhai wythnosau erbyn hyn ac maen nhw yn bendant wedi manteisio o'r dorf rygbi. Nos Wener ni'n dangos gêm Cymru a Ffrainc yn y caffi bar."
Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, bydd y ganolfan yn brosiect aml-bartneriaeth, gyda Menter Caerdydd yn arwain.
Mae siop Bodlon hefyd yn rhan o'r fenter, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd, fydd yn cynnig gwersi Cymraeg i oedolion; a Clwb Ifor Bach, fydd yn rhedeg y caffi bar.
Bydd Amgueddfa Stori Caerdydd yn parhau i ddefnyddio'r adeilad, tra bod cwmni cyfathrebu Mela Media yn newydd-ddyfodiaid yno.
Mudiad Meithrin sy'n rhedeg y crèche, ac mae wedi bod ar agor ers dechrau'r mis, gyda dros 200 o blant wedi'u croesawu yn y cyfnod hwnnw.
"Ni eisiau llwyddo i fod yn ganolfan sy'n creu cyfleoedd i bobl o bob oedran a chefndir i ymgysylltu a'r Gymraeg ar bob lefel trwy amryw o weithgareddau," ychwanegodd Bethan Williams. "Ry'n ni eisiau cynnig gofod croesawgar i bawb.
"Dyna yw'r peth pwysig i gofio - ei bod hi ar gyfer pawb."
Bydd llwyfan berfformio yn y caffi bar ar gyfer perfformiadau "ad-hoc", a rhai cyson hefyd, wedi'u trefnu gan Clwb Ifor Bach.
Meddai Bethan Williams: "Mae 'na gynulleidfa allan yna ni isie targedu a ni angen cael y neges 'na allan fel bod pobl yn cymryd perchnogaeth o'r ganolfan ac yn rhoi adborth i ni."