Oes 'na Oscar ar y ffordd i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Mae 'di bod yn gyfnod prysur i Siân Grigg ers iddi gael ei henwebu am Oscar am ei gwaith coluro ar ffilm The Revenant.
Bydd 88fed Gwobrau'r Academi yn cael eu cynnal yn Los Angeles nos Sul, a llwyddodd Cymru Fyw i gwrdd â'r artist coluro o Benarth cyn iddi fynd allan ar gyfer y seremoni, i glywed sut mae'r paratoadau'n mynd.
Sut fis wyt ti wedi ei gael ers i ti glywed dy fod wedi dy enwebu am Oscar?
Dwi di dechrau dod yn gyfarwydd â'r syniad, ond o'n i wedi cael fy syfrdanu cymaint ein bod ni wedi cael ein henwebu.
Roedd e'n gymaint o fraint, roedd e'n gymaint o sioc. Dwi ddim yn credu bod fy nhraed i nôl ar y llawr!
Dwi di synnu faint o waith sydd i'w wneud. Do'n i ddim yn disgwyl bod cymaint o achlysuron roedd rhaid i fi fynd iddyn nhw, fel y nominees lunch a'r partïon cyn yr Oscars. Mae'n rhaid gwneud lot o symposiums a round tables, a Q and A's am y ffilm.
Mae cymaint o bethau i feddwl amdanyn nhw ynglŷn â'r wisg a'r gwallt a'r colur. Mae e fel paratoi ar gyfer ffilm, ond fi yw'r actores, a dwi ddim yn gyfarwydd gyda hynna o gwbl!
Mae'r Oscars yn glamorous iawn ac mae pobl yn meddwl bod dy waith di hefyd yn glamorous, ond dyw hynny ddim yn wir o ddydd i ddydd, nag yw?
Na, dyw e ddim. Ar y Revenant, y rhan fwyaf o'r amser, ro'n i mewn dillad tywydd oer iawn. Roedd e'n gallu bod yn -20.
Roedd hi un ai'n bwrw eira neu'n bwrw glaw, a does dim lot y gallwch chi wneud i edrych yn dda yn yr awyrgylch yna a dweud y gwir.
Y ffilm The Revenant sydd wedi cael y nifer mwyaf o enwebiadau - 12 ohonyn nhw. Beth yw'r gobeithion?
Mae hi mor anodd dweud, achos sai'n meddwl bod un ffilm wedi ennill popeth. Mae nifer o wobrau wedi bod yn ddiweddar, ac maen nhw'n mynd i wahanol bobl drwy'r amser.
Y peth yw, mae gwahanol bobl yn pleidleisio, ac mae beth mae'r Academy'n hoffi falle ddim yr un peth ag y mae'r Golden Globes neu'r Baftas yn hoffi.
Sut wyt ti wedi bod yn paratoi ar gyfer yr Oscars?
Y peth o'n i'n poeni amdano yn syth - mor gynted ag y clywes i ein bod ni wedi cael ein enwebu - oedd "Ffroc! Diet!"
Yn ffodus, mae ffrind da i fi - roeddwn i'n coleg arlunio gyda hi - sy'n berchen siopau dillad yn Arberth, ac mae gyda hi flas gwych mewn dillad, felly ffonies i hi'n syth a gofyn, "Alli di helpu fi?" achos mae'n mynd yn ddrud iawn, y dillad chi'n gorfod prynu.
Mae lot o achlysuron i fynd iddyn nhw, ac wedyn dwi'n cael fy ffrog wedi ei wneud yn Llundain ar gyfer yr Oscars ei hun.
Beth am y noson ei hun? Os enw Sian Grigg fydd yn cael ei gyhoeddi, wyt ti wedi meddwl am beth i'w ddweud?
"Wel, fi'n trio peidio meddwl amdano fe a bod yn onest, achos mae e'n fy ngwneud i mor nerfus! Mae pob ffilm sydd wedi cael ei enwebu mor dda, dwi'n meddwl falle bydd dim rhaid i fi fynd lan i ddweud rhywbeth.
"Dwi'n poeni y bydden i'n cwympo lan y grisie, cyrraedd y top, dechrau crïo a methu â dweud dim byd!
"Os oes gwyrth yn digwydd a'n bod ni'n ennill, gobeithio na fydd neb yn cofio beth dwi'n dweud!
Bach o Gymraeg falle?
"Bydden i'n hoffi dweud rhywbeth bach yn Gymraeg, -"diolch" neu rywbeth - ond dwi ddim yn meddwl y bydda i'n gallu siarad!"