Sir Gâr: Ystyried dyfodol ysgolion bach
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall y bydd dyfodol rhai o ysgolion lleiaf Sir Gaerfyrddin yn cael eu hystyried unwaith eto gan Bwyllgor Craffu Addysg y Cyngor Sir wythnos nesaf.
Deellir y bydd opsiynau yn cael eu trafod ar gyfer dyfodol Ysgolion Bancffosfelen, Llanedi a Thremoilet, er nad yw'r cynigion hynny wedi eu cyhoeddi eto gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae yna bryder wedi bod am ddyfodol Ysgol Gynradd Bancffosfelen ers 12 mlynedd.
Yn ôl Cyngor Sir Gâr, mae yna 35 o ddisgyblion yn yr Ysgol, a 64% o lefydd gwag ynddi. Mae'r awdurdod yn dweud ei bod hi'n costio £4,647 y pen i addysgu plentyn ym Mancffosfelen, o'i gymharu â chyfartaledd o £3739 ar draws y Sir.
Mae Cadeirydd y Llywodraethwyr, Aled Davies, wedi galw ar y Cyngor Sir i ganiatáu sefydlu ymddiriedolaeth i redeg Ysgol Bancffosfelen fel un Wirfoddol wedi ei Chynorthwyo. Mi fyddai hynny yn caniatáu i'r gymuned leol i fod yn gyfrifol am yr adeilad.
Mae Cadeirydd Pwyllgor Craffu'r Cyngor Sir, Eirwyn Williams, wedi dweud wrth BBC Cymru y bydd y Cynghorwyr yn fodlon ystyried cynnig y llywodraethwyr, ynghyd ag opsiynau eraill fydd yn cael eu llunio gan swyddogion addysg.
Fe fydd y pwyllgor craffu yn cwrdd ar ddydd Mercher, 9 Mawrth. Bydd argymhellion yn cael eu llunio fydd yn mynd gerbron y Bwrdd Gweithredol.