Pryder y gall Llywodraeth Cymru 'reoli crefydd'
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon y gall cynlluniau Llywodraeth Cymru i reoleiddio addysg tu allan i'r ysgol gael effaith ar ysgolion Sul a mudiadau ieuenctid.
Dywedodd Cytun, sy'n cynrychioli Eglwysi yng Nghymru, wrth raglen y Sgwrs BBC Cymru bod rhai o'u haelodau yn erbyn cyflwyno system o gofrestru ac o arolygu.
Bwriad gweinidogion yw rheoleiddio'r rheiny sy'n darparu chwe awr neu'n fwy o addysg mewn wythnos tu allan i drefn arferol ysgolion.
Ond mae'r llywodraeth yn mynnu nad oes bwriad i reoleiddio crefydd nac i ymyrryd mewn hawl rhieni i ddysgu eu plant am addysg grefyddol.
Mae'n "amlwg fod rhai Cristnogion yn pryderu y gall hyn arwain at 'reoleiddio di-ben draw'", meddai swyddog polisi Cytun, Gethin Rhys.
Dywedodd: "Mae Cytun wedi bod yn ymgynghori a'n holl aelodau ni ar hyn o bryd ynglŷn â hyn ac mae'r teimladau yn amrywio.
"Mae rhai enwadau yn teimlo yn ofidus ac yn reit wrthwynebus, yn teimlo gall hyn agor y drws i'r llywodraeth reoli crefydd, rheoli beth sydd yn cael ei ddysgu i blant o dan enw crefydd, ac maen nhw yn gofidio yn fawr am dan hynny.
"Mae eraill yn gweld y mater fel un o ddiogelu plant ac, wrth gwrs, mae Eglwysi yn atebol dan y cyfreithiau diogelu plant fel pob mudiad arall yn barod, ac felly yn teimlo nad yw hyn yn rhywbeth sinistr. Felly mae na amrywiaeth barn ymhlith yr eglwysi."
Rhybuddiodd Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru, sy'n barchedig rhan amser gydag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn "ofalus" gyda'r ymgynghoriad.
"Un o'r pethe wrth greu rheoliadau neu ddeddfwriaethau mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono fe ydi canlyniadau anfwriadol," meddai.
"Yr hyn fyddai yn fy mhoeni i yn fan hyn ydi a fydde unrhyw bwysau gweinyddol ychwanegol yn mynd ar eglwysi a chapeli o ganlyniad i hyn oherwydd maen nhw yn fudiadau gwirfoddol. Dyw'r capacity ddim ganddyn nhw i ddelio gyda hynny."
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae "amddiffyn rhyddid crefyddol yn egwyddor sylfaenol".
Dywedodd: "Mae amgylchiadau tu allan i'r ysgol yn gallu, ac yn, cyfrannu'n bositif tuag at werthoedd plant. Fodd bynnag, dydyn nhw ddim yr unig ddarparwyr o addysg plant, ac yn sicr, nid ein rôl ni yw pennu be ddylen nhw ddysgu, yn union fel nad ydyn ni'n argymell agweddau eraill o sut y dylen nhw weithredu.
"Dyma alwad rhagarweiniol am dystiolaeth i geisio casglu barn er mwyn dod i gasgliad a byddwn yn annog unrhyw un gyda diddordeb i roi eu barn."
Y Sgwrs, S4C 21:30 ddydd Mercher 9 Mawrth