Lle oeddwn i: Caryl Lewis a Martha, Jac a Sianco

  • Cyhoeddwyd
Caryl Lewis

Llongyfarchiadau i Caryl Lewis am ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn am yr eildro gyda'i nofel 'Y Bwthyn'.

Fe gyflawnodd hi'r gamp am y tro cyntaf yn 2005 gyda'r nofel 'Martha, Jac a Sianco'

Bu Cymru Fyw yn holi am gefndir y gyfrol boblogaidd fel rhan o'n cyfres 'Lle oeddwn i':

Yn yr hen gegin o'n i, yn ffermdy Hafodau, Goginan. O'dd hi'n hen 'stafell efo lle tân mawr agored, dyna lle o'dd fy 'nesg i ar y pryd. O'dd hi'n ddesg bren anferth o'dd wedi dod o Blas Gogerddan. Gyda phapur a phensil dwi'n sgwennu, ac yn teipio'r gwaith lan wedyn.

O'n i'n 24 oed pan gychwynnes i sgwennu 'Martha, Jac a Sianco'. O'n i'n hunan gyflogedig ac o'n i heb briodi na chael plant ar y pryd, felly o'dd hi'n gyfnod eitha' tawel yn fy mywyd ond o'n i'n sgwennu lot yn y cyfnod yna. Sgwennes i 'Martha, Jac a Sianco' gyda'r flwyddyn fel petai, dwi'n cofio sgwennu am gneifio yn y nofel ac odd y bois yn cneifio mas tu fas ar y ffarm.

Dwi'n meddwl am y stori am amser hir, a wedyn rwy'n sgwennu'n gloi, alla i wneud lot mewn diwrnod. Tua chwech wythnos gymrodd hi i orffen 'Martha, Jac a Sianco', ond o'dd hi wedi bod yn fy mhen i am amser hir cyn 'ny - dwi'n cario pethe yn fy mhen am flynydde'.

Y sbardun i'r nofel o'dd gweld bywyd o fy nghwmpas i. O'dd yr hen ffordd wledig o fyw yn diflannu, o'dd e'n anweledig mewn ffordd. O'dd 'na dipyn o sôn mewn nofelau am y Gymru fodern, ond dim cymaint yr hen ffordd o fyw. Y math o gymeriadau yn y nofel o'dd y math o bobl o'n i'n dod ar eu traws. Ges i gyngor i sgwennu am beth dwi'n ei wybod, ac os wyt ti'n teimlo'r cymeriad, mae'n bwysig i'w sgwennu fe.

Roedd y cyfnod o sgwennu 'Martha, Jac a Sianco' yn gyfnod neis yn fy mywyd ac o'dd hi'n gyfnod hapus a mae hynna, dwi'n meddwl, yn bwysig i gynhyrchu gwaith.

Cafodd y nofel 'Martha, Jac a Sianco'ei haddasu yn ffilm ar gyfer S4C, ac enillodd chwe gwobr BAFTA yn 2008.

Ffynhonnell y llun, Caryl Lewis