Sylw Joe Marler: Undeb Rygbi Cymru 'wedi synnu'
- Cyhoeddwyd

Marler (rhif 1) a Lee yn ymrafael yn ystod y gêm ddydd Sadwrn
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud ei fod wedi "synnu" fod prop Lloegr Joe Marler wedi osgoi cosb am wneud sylwadau am Samson Lee yn ystod y gêm rhwng Lloegr a Chymru y penwythnos diwethaf.
Roedd Marler wedi disgrifio Samson Lee fel "Gypsy Boy", ac fe wnaeth osgoi cosb am y sylw a hefyd am daro Rob Evans yn ystod y gêm. Fe ymddiheurodd am wneud y sylw yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn datganiad ddydd Iau ei fod wedi "synnu gan benderfyniad panel disgyblu'r Chwe Gwlad". Ychwanegodd yr undeb: "Rydym yn ategu ein cred nad oes lle i'r defnydd o iaith hiliol mewn chwaraeon.
"Yn amlwg mae'r digwyddiad wedi codi materion ehangach i rygbi sydd angen trafodaeth bellach ac fe fyddwn yn gwneud hynny gyda'r Chwe Gwlad."
'Ymchwiliad trylwyr'
Mewn datganiad, dywedodd Rygbi Chwe Gwlad: "Mae Rygbi'r Chwe Gwlad wedi cynnal ymchwiliad trylwyr i'r digwyddiad ac wedi nodi'r ffaith fod Mr Marler wedi difaru'r hyn a ddywedodd e'n syth, ac wedi ymddiheuro wrth Mr Lee yn ystod hanner amser.
"Rydym hefyd wedi nodi fod Hyfforddwr tîm Lloegr, Eddie Jones wedi rhoi cerydd i Mr Marler a'i atgoffa o'i gyfrifoldebau fel chwaraewr rygbi rhyngwladol.
"Mae Rygbi'r Chwe Gwlad wedi derbyn yr eglurhad a roddwyd, fod y sylw wedi ei wneud yng ngwres y frwydr. O ystyried yr holl ffeithiau, fydd yna ddim camau disgyblu. Mae Rygbi'r Chwe Gwlad nawr yn ystyried fod y mater ar ben."
Mewn datganiad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Joe Marler: "Rwyf wedi derbyn o'r dechrau i mi wneud sylw annoeth wrth Samson. Cafodd ei wneud yng ngwres y frwydr. Fe ymddiheurais wrth Samson Lee, heb gael fy nghymell, yn ystod hanner amser a chafodd yr ymddiheuriad ei dderbyn. Fe ysgwydon ni ddwylo a chyfnewid gwên ar ddiwedd y gêm.
"Nid wyf yn annog hiliaeth mewn unrhyw ffordd nac ar unrhyw adeg, ac unwaith eto, rwyf yn ymddiheuro am unrhyw loes gafodd ei achosi gan fy sylw anaddas."