Lle oeddwn i: Cleif Harpwood a Mistar Duw

  • Cyhoeddwyd
Cleif Harpwood yn canu gyda Edward H Dafis yn Eisteddfod 2013
Disgrifiad o’r llun,

Cleif Harpwood yng nghyngerdd olaf Edward H yn Eisteddfod Dinbych 2013

Mae Mistar Duw yn un o glasuron Edward H Dafis. Mae'r gân yn dal i fod yr un mor boblogaidd heddiw ac yr oedd hi pan gafodd ei chyhoeddi ar y record hir Hen Ffordd Gymreig o Fyw yn 1974.

Bydd Cleif Harpwood, lleisydd y grŵp ac awdur geiriau'r gân, yn westai ar Recordiau Rhys Mwyn, Radio Cymru, nos Lun, 25 Medi a fydd yn trafod yr albwm.

Bu'n egluro wrth Cymru Fyw beth wnaeth ei ysgogi i sgrifennu Mistar Duw:

O'n i'n fyfyriwr yng Nghaerfyrddin ac yn eistedd yn nhafarn y Ceffyl Du yn 1972, pan ddaeth rhaglen ddogfen ar y teledu yn y bar am ryfel Fietnam. Roedd y rhyfel erchyll hwnnw yn rhan o hanes ieuenctid y 1960au, a dyma oedd y sbardun i sgwennu'r gân.

Mae'n rhaid ei bod hi'n noson dawel yn y 'Ceff' y noson honno gan mod i wedi dilyn y ddogfen drwyddi.

Roedd 'na un darn yn y rhaglen lle gwelwyd offeiriad yn cynnig cysur i filwr oedd wedi ei anafu. Dywedodd wrtho ei fod wedi bod yn lwcus iawn, a'i fod wedi goroesi am fod Duw wedi cadw ei ochr e. Ac meddai'r dyn yn ôl wrtho: "Yeah, you're right Padre, I suppose I'll have to call him 'Mister' from now on" - a dyna lle ddaeth y 'Mistar' yn y gân.

Cân dros heddwch yw hi, ac mae hefyd yn holi'r cwestiwn mawr hwnnw am fodolaeth Duw, a hynny o safbwynt y milwr ar faes y gad.

Pam fod y bod mawr mor oddefgar o'r rhyfela trahaus rhwng dyn a'i gyd-ddyn o genhedlaeth i genhedlaeth?

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Mistar Duw' ymhlith y caneuon ar record hir gyntaf Edward H Dafis

Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar BBC Cymru Fyw fis Ebrill 2016.