Taith Plaid Cymru yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Logo Plaid Cymru

Plaid, Plaid Cymru, the Party of Wales - bu sawl ailymgnawdoliad yn adlewyrchu taith y blaid o grŵp o radicalwyr fu'n brwydro dros y Gymraeg i blaid sydd wedi bod yn rhan o Lywodraeth.

Creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd uchelgais oes i fwyafrif aelodau Plaid Cymru ac roedd y blaid ar ei hanterth etholiadol yn yr etholiadau cyntaf i'r sefydliad.

Gyda Dafydd Wigley yn arweinydd, enillodd Plaid eu canran uchaf o'r bleidlais mewn unrhyw etholiad ledled Cymru (28.4%). Cyfrannodd buddugoliaethau yng nghadarnleoedd Llafur, Islwyn a Rhondda, at 17 sedd.

Profodd yn uchafbwynt etholiadol. Roedd digwyddiadau o fewn a thu hwnt i reolaeth y blaid yn mynd i effeithio'n andwyol arni. Wrth i sibrydion ledaenu fod cynllwyn i'w ddisodli, ymddiswyddodd Dafydd Wigley a daeth Ieuan Wyn Jones yn arweinydd. Yn y cyfamser roedd poblogrwydd Llafur yn cael ei atgyfodi wrth i Rhodri Morgan olynu Alun Michael fel Prif Weinidog.

Siom etholiadol oedd i ddilyn i Blaid Cymru. Llithrodd hen sedd seneddol Ieuan Wyn Jones yn Ynys Môn o'u gafael yn etholiad cyffredinol 2001 ac yn etholiad y Cynulliad yn 2003 aeth nifer eu haelodau i lawr o 17 i 12. Ymddiswyddodd Ieuan Wyn Jones cyn ailgydio yn yr awennau yn fuan wedyn.

Trwy golli Ceredigion i'r Democratiaid Rhyddfrydol aeth Plaid Cymru i lawr i dair sedd yn San Steffan yn etholiad 2005, y nifer isaf ers 1992.

Ailfrandio

Gyda'r gefnogaeth yn gwegian, cynhaliodd Plaid adolygiad mewnol, bu proses o ailfrandio gan ddewis defnyddio "Plaid" fel enw'r blaid, er y byddai "Plaid Cymru the Party of Wales" yn parhau i fod yn deitl swyddogol.

Roedd ffawd Plaid Cymru ar droi yn y trydydd Cynulliad. Yn 2007 enillodd 15 sedd gan adennill Llanelli ac etholaeth newydd Aberconwy. Yn dilyn wythnosau o drafodaethau rhwng y pedair plaid, cafodd clymblaid ei ffurfio rhwng Plaid a Llafur a ddaeth i gael ei hadnabod fel "Llywodraeth Cymru'n Un". Yn ganolog i'r cytundeb roedd ymrwymiad i ymgyrchu dros bleidlais "Ie" mewn refferendwm ar bwerau deddfu llawn i'r Cynulliad.

Daeth Ieuan Wyn Jones yn ddirprwy Brif Weinidog ac roedd gan Plaid bedwar gweinidog yn y cabinet ac un dirprwy weinidog.

Wedi etholiad y Cynulliad yn 2011, pan gollodd Plaid dair sedd, bu newidiadau i'r strwythur arweinyddol yn y Cynulliad wrth iddyn nhw fabwysiadu cabinet cysgodol. Cafodd Plaid Cymru eu goddiweddyd gan y Ceidwadwyr fel yr ail blaid fwyaf. Ymddiswyddodd Ieuan Wyn Jones fel arweinydd a gadawodd y Cynulliad yn gyfan gwbl ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ond cynyddu eu mwyafrif yn isetholiad Ynys Môn wnaeth Plaid Cymru gyda'u hymgeisydd Rhun ap Iorwerth.

Ym mis Mawrth 2012 cafodd Leanne Wood ei hethol yn arweinydd newydd, gan drechu Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas. Hi oedd y fenyw gyntaf i arwain y blaid a'r cyntaf sydd wedi dysgu'r Gymraeg.

Mewn etholiadau lleol, Ewropeaidd ac yn etholiad cyffredinol 2015, dydy Plaid ddim wedi llwyddo i wneud cynnydd. Er hynny mae Leanne Wood yn honni y gallai Plaid arwain Llywodraeth Cymru leiafrifol ar ôl 5 Mai. Er mwyn i hynny ddigwydd bydd yn rhaid iddyn nhw bron dyblu nifer eu haelodau Cynulliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol