Siwrne liwgar y Ceidwadwyr Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae'r ystadegau etholiadol sych yn awgrymu fod y Ceidwadwyr wedi mwynhau twf graddol ond arwyddocaol ers 1999 - ond rhan o'r stori'n unig yw hon.
Mae siwrne'r blaid yn ôl i reng flaen gwleidyddiaeth Cymru yn llawer mwy lliwgar.
Wedi gwrthwynebu datganoli yn refferendwm 1997 ac wedi colli pob un o'u ASau Cymreig yn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno, prin oedd gobeithion y Ceidwadwyr wrth baratoi am yr etholiadau datganoledig cyntaf ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Enillodd y blaid naw o'r 60 sedd - cyfanswm cwta, efallai, ond digon i ddechrau ailadeiladu.
Arweinwyr
Arweinydd y grŵp oedd y cyn AS a gweinidog Swyddfa Cymru, Rod Richards. Bywiogwyd amryw o sesiynau cynnar y Cynulliad gan ei gyfraniadau di-flewyn ar dafod.
Ond sefyll i'r neilltu wnaeth Mr Richards wedi iddo gael ei gyhuddo o ymosod ar fenyw ifanc - dyfarnodd rheithgor ei fod yn ddieuog, ond ymddeol wnaeth Mr Richards o'r Cynulliad yn 2002.
Bwrw ati wnaeth ei olynydd Nick Bourne - bellach yn Arglwydd ac yn Weinidog yn Llywodraeth y DU - i geisio lleddfu'r boen a achoswyd i'r blaid gan y refferendwm ar ddatganoli.
Doedd dim pwynt parhau, yn nhyb Mr Bourne, i wrthwynebu datganoli, a llwyddodd i ddarbwyllo'r blaid (er gwaethaf gwrthwynebiad gan rai) i fabwysiadu'i pholisi presennol - o blaid Senedd Gymreig yn meddu ar bwerau i ostwng trethu a hybu menter.
Bu'r tro pedol mor llwyddiannus nes i Mr Bourne ddod o fewn trwch blewyn i sicrhau swyddi yn y cabinet i'r Ceidwadwyr.
Wedi cynyddu nifer seddi'r blaid i 11 yn 2003, gwella eto wnaeth y Ceidwadwyr yn 2007, gan ennill 12.
Clymbleidio
Roedd clymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn bosibilrwydd gwirioneddol - wedi blynyddoedd o waith tu hwnt i'r lleni, gwaith cymharol hawdd oedd cytuno ar raglen lywodraethu. Ond wedi amheuon o fewn y pleidiau eraill aeth y cynllun i'r gwellt.
Ond roedd 'na ail wobr - sgil effaith penderfyniad Plaid Cymru i glymbleidio â'r blaid Lafur oedd taw'r Ceidwadwyr oedd prif wrthblaid Bae Caerdydd.
A gyda'r rhod etholiadol yn troi o'r diwedd ar lefel Brydeinig, llwyddodd y blaid yn 2011 i ennill 14 sedd, gan ddisodli Plaid Cymru fel ail blaid fwya'r Cynulliad.
Roedd pris i'w dalu - colli oedd hanes Nick Bourne ei hun. Yn yr ornest arweinyddol wnaeth ddilyn, Andrew RT Davies fu'n fuddugol ar draul Nick Ramsay.
Parhau ar drywydd digon tebyg i Mr Bourne wnaeth Mr Davies, gan ddadlau dros ddatganoli pellach er mwyn gwireddu dyheadau Ceidwadol ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus - er bod arddull a phersonoliaeth y ddau arweinydd yn dra gwahanol.
Wedi cael modd i fyw drwy ymosod ar record Llafur Cymru ar y gwasanaeth iechyd, ac wedi ennill tir newydd yn yr etholiad Cyffredinol llynedd, mae'r Ceidwadwyr yn obeithiol o gipio mwy o seddi ym mis Mai.
Ond gyda'r berthynas rhyngddi a Phlaid Cymru yn enwedig wedi gwywo ers 2007, ymddengys taw talcen caled fydd gwireddu'r freuddwyd o fod yn rhan o'r llywodraeth.