'Carreg filltir' wrth i'r safonau iaith ddod i rym
- Cyhoeddwyd
Mae'r safonau iaith cyntaf sy'n "garreg filltir" yn hanes y Gymraeg wedi dod i rym ddydd Mercher.
Bydd y set yma'n gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar gynghorau sir, Llywodraeth Cymru a'r parciau cenedlaethol i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith.
Mae Comisiynydd y Gymraeg am lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth pobl o'u hawliau, gan ychwanegu bod "heddiw'n garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg".
Dywedodd y Comisiynydd Meri Huws: "Gyda'r safonau cyntaf yn dod yn weithredol, mae gan bobl yng Nghymru hawliau newydd i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau, rwy'n cychwyn ar gyfnod o ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o'r hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Drwy gyhoeddi fideo, tudalen ymgyrch ar ein gwefan ac annog defnydd o'r hashnod #hawliau ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy'n gobeithio y bydd y neges yn cyrraedd cynulleidfa eang.
"Byddaf yn gweithio'n agos â nifer o fudiadau cenedlaethol a chymunedol yng Nghymru er mwyn lledaenu'r neges ymysg eu haelodau."