Ateb y Galw: Rhodri Owen
- Cyhoeddwyd
![rhodri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/72C0/production/_89067392_s4c-heno-rhodriowen.jpg)
Rhodri Owen, cyflwynydd Heno ac X-Ray, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan ei wraig, Lucy.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Bod ar fy ngwyliau gyda Mam, Dad a fy mrawd yng Ngwlad Belg - pwy a ŵyr pam - ond roedden ni'n mynd yno bob blwyddyn!!
Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?
Susannna Hoffs o'r grŵp 'The Bangles'.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gormod ohonyn nhw i ddewis un.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n ddyn mawr cryf - dwi ddim yn crio!
![rhodri owen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12F69/production/_89037677_rhod'srunaboutscropped.jpg)
Rhodri yn ffilmio ar gyfer rhaglen X-Ray
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n ofnadwy am fod yn daclus… methu diodde' mess - ma' Lucy i'r gwrthwyneb…
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Y caeau o gwmpas y Bontfaen, Bro Morgannwg. Ry'n ni'n eu cerdded yn aml fel teulu wrth fynd â'r ci am dro.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson allan gyda dau ffrind yn LA - a 'naethon ni ddiweddu lan yn yfed gwin yn nhŷ Harrison Ford - gyda FE a'i wraig!
!["Rhodri! 'Ti ddim i yfed gwin o fy nghwpan speshial i!"](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15438/production/_89069078_abd29fd5-db12-4609-8edf-47b257ec612d.jpg)
"Rhodri! 'Ti ddim i yfed gwin o fy nghwpan speshial i!"
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Tad. Gŵr. Hapus.
Beth yw dy hoff lyfr?
Llyfr goginio i blant - 'Bwyd bwyd bwyd' wedi ei addasu i'r Gymraeg gan Rhodri Owen.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Siaced ledr ges i fel anrheg Nadolig gan Lucy - ar ôl i ni ddweud 'dim anrhegion'. Nes i gadw at fy ngair!!! Wps!!!
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'A Good Year'.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Matthew Rhys.
![Rhodri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D45E/production/_89066345_35df4ae7-9c2a-465a-af59-94df53d7c08d.jpg)
Matthew Rhys yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer y ffilm o fywyd Rhodri Owen
Dy hoff albwm?
Goreuon Huw Chiswell
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - king prawns!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Fy mab, Gabs.
Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Angharad Mair