Tri charcharor wedi bod ar do Carchar Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth tri charcharor lwyddo i gael mynediad i do Carchar Abertawe ddydd Sul.
Dywedodd y gwasanaeth carchardai y bu'r dynion ar y to rhwng 09:50 a tua 16:30.
Bu staff arbenigol y carchar yn gweithio i "ddatrys hyn cyn gynted ac oedd yn bosib o ran diogelwch".
Fe wnaeth y gwasanaeth tân fynychu'r digwyddiad, ond dywedodd Heddlu'r De nad oedden nhw wedi cael eu galw.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai:
"Daeth tri charcharor yng Ngharchar Abertawe yn wirfoddol i lawr o'r to, yn dilyn digwyddiad heddiw.
"Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae'r holl garcharorion wedi cael eu symud i'r uned arwahanu a bydd rhaid iddynt hepgor eu breintiau."