Y Gymraeg yn ddigon agored?
- Cyhoeddwyd
Oes yna brinder siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y maes gweithgareddau awyr agored - ac os oes, pam?
Gyda Llywodraeth Cymru yn honni fod y diwydiant yn cyfrannu bron i hanner biliwn o bunnoedd i'r economi, mae pryder wedi bod ers tro, dolen allanol am gyn lleied o Gymry Cymraeg eu hiaith sy'n manteisio ar hynny.
Dyw Arwel Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, ddim yn meddwl fod 'na ddatrysiad syml i'r broblem. Bu'n egluro wrth Cymru Fyw:
Seisnigeiddio
Mae llawer o sôn dros y 10-12 mlynedd diwethaf yn y diwydiant addysg awyr agored yng Nghymru bod prinder o Gymry Cymraeg lleol yn gweithio o fewn y maes.
Yr ymateb amlwg i'r diffyg yma yw recriwtio ac hyfforddi pobl lleol Cymreig i weithio yn yr awyr agored. Ond dwi'n credu bod yr ymateb yma yn ceisio datrys problem ar raddfa arwynebol iawn a bod craidd y broblem hefyd yn gysylltiedig â gwahaniaethau diwylliannol.
Er bod pobl yn cael y cyfle i hyfforddi yn y maes, mae'r cyfleoedd pellach, sef gwaith llawn-amser, yn brin. Ffactor arall sy'n rhwystro pobl rhag gweithio yn y maes yw ei fod yn faes tymhorol gyda nifer o ddarparwyr ddim ond yn cynnig cytundebau llawrydd, chwe mis neu 10 mis.
Pan mae swyddi llawn-amser yn codi, sy'n talu graddfa lle y gall unigolyn fyw yn gyfforddus, mae 'na nifer fawr o ymgeiswyr ac mae'r gystadleuaeth yn uchel iawn.
Mae ymchwil Prifysgol Bangor ar ran Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru yn awgrymu bod y sector awyr agored yng Ngogledd Cymru wedi cael ei datblygu a'i Seisnigeiddio gan bobl sydd wedi symud i mewn i'r ardal a bod y diffyg cyfraniad lleol i'r sector wedi arwain at nifer o faterion anghytbwys diwylliannol.
Dwi'n meddwl felly bod darpariaeth gweithgareddau addysg awyr agored yn bodoli, nid mewn amgylchedd ddiwylliannol Cymreig ond o fewn fersiwn Seisnigiedig ohono.
Drwgdybiaeth
Mae 'na awgrym bod cryn ddrwgdybiaeth yn bodoli rhwng hyfforddwyr addysg awyr agored sydd ddim yn rhannu'r gwerthoedd a'r persbectif sydd yn draddodiadol yn ganolog i ethos o weithio yn y maes.
Yn bersonol dwi'n credu bod elfen o'r ddrwgdybiaeth yma yn fyw o fewn y maes addysg awyr agored yng Ngogledd Cymru, ac ei fod yn bennaf ynghlwm â'r gwahaniaethau rhwng hyfforddwyr a mudiadau sydd â chefndir a diwylliant Cymreig, ac hyfforddwyr a mudiadau sydd â chefndir a diwylliant Saesnig.
Pan dwi wedi bod yn gweithio o fewn sefydliadau sy'n gweithio drwy gyfrwng y Saesneg mewn amgylchedd ddiwylliannol Cymreig, dydw i ddim yn teimlo mod i wedi integreiddio gyda'r sefydliad yn llawn.
O siarad gyda nifer o ffrindiau sy'n hyfforddwyr Cymraeg, dydyn nhw chwaith ddim yn teimlo eu bod yn perthyn i'r gymuned awyr agored yn bersonol nac yn broffesiynol o achos y 'teimlad' diwylliannol gwahanol.
Yn ddiweddar cafodd un Cymro Cymraeg y dewis i weithio unai mewn canolfan hyfforddi awyr agored cenedlaethol neu yng Ngwersyll Yr Urdd Glan-llyn.
Ar ôl iddo fo ymweld â'r ddau safle penderfynodd weithio yng Nglan-llyn. Pan nes i ofyn be' oedd wedi dylanwadu ar ei benderfyniad, y prif ffactor oedd y teimlad diwylliannol o berthyn.
Mewn diwydiant sy'n ddiwylliannol Seisnig, yn bersonol, dwi'n meddwl fod hyn yn un ffactor sydd wedi cyfrannu at y diffyg hyfforddwyr lleol Cymreig a Chymraeg yn y maes addysg awyr agored.
Mae'n angenrheidiol i hyfforddwyr awyr agored feddu ar ddealltwriaeth, gwir ddiddordeb, a lefel o ymwybyddiaeth ddiwylliannol bersonol. Dylai'r dealltwriaeth yma chwarae rhan annatod wrth gyflwyno'r profiadau anturus.
Os oes bwlch diwylliannol mawr yn bodoli rhwng yr hyfforddwyr a'r rheiny sy'n cymryd rhan, gall hyn effeithio ar y profiad. Ac ella fod hyn hefyd yn arwain at ddiffyg diddordeb i ddilyn gyrfa yn y maes.
Cau'r bwlch
Mae'r dasg o hyfforddi hyfforddwyr Cymraeg i weithio o fewn y diwydiant Seisnigedig awyr agored wedi datblygu yn aruthrol yn y 12 mlynedd diwetha'. Erbyn heddiw mae mwy o hyfforddwyr lleol Cymraeg yn gweithio yn y maes ac mae felly potensial i gau y bwlch diwylliannol.
Ond Saesneg yw iaith y maes yn genedlaethol. Mae'r mudiadau sy'n rheoli canolfannau, gwasanaethau awdurdodau lleol awyr agored, yn gweithredu trwy'r Saesneg.
Yn ddiweddar mi es i ddigwyddiad lle roedd penaethiaid canolfannau addysg awyr agored yn dod at ei gilydd i rannu syniadau, profiadau ac i dderbyn hyfforddiant. Roedd hyd at 200 yn y digwyddiad a dim ond dau ohonon ni oedd yn siarad Cymraeg ac yn gweithio yn y sector Gymreig.
Mae'r rhai sy'n rheoli ac yn llywio y maes awyr agored ar y cyfan yn gweithredu drwy'r Saesneg. Felly dydw i'n bersonol ddim yn rhagweld unrhyw shifft diwylliannol mawr o fewn y mudiadau a'r busnesau addysg awyr agored yng Ngogledd Cymru.