Ateb y Galw: Owain Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
owain

Y cyflwynydd Owain Gwynedd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Llinos Lee.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Rhywsut dwi'n dal yn cofio fy hun yn gallu dringo allan o'r cot yn fabi. Taflu fy nghoes dros yr ochr, gollwng fy hun i'r llawr a glanio ar fy mhen ôl a dringo mewn i'r gwely at Mam a'i deffro… sori Mam!!

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Britney Spears - dwi'n siŵr bod pawb yn ysgol yn ei ffansio hi pan ddoth 'Baby One More Time' allan. Mae Britney wedi newid rhyw 'chydig ers y dyddiau yna - siom!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio danfon neges ffôn i ffrind am rhywun oedd wedi mynd ar fy nerfau un prynhawn… yn lle danfon o i'r ffrind nes i ddanfon o i'r person a'th ar fy nerfau. Wps!!!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Anaml dwi'n crio. Ond mi ro'n i yn fy nagrau rhyw ddwy flynedd yn ôl pan o'n i'n trafod fy nhad ac amgylchiadau ei farwolaeth efo Mam.

Wrth dd'eud hynna dwi newydd gofio bod fy llygaid wedi dyfrio cwpwl o weithiau yn y theatr yn ddiweddar pan es i weld sioe 'Only the Brave' - cwpwl o olygfeydd emosiynol.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Nagoes… jôc... dwi'n tybio bod gen i doman o arferion drwg. Ma'n siŵr bod gadael llesti budr a disgwyl yn rhy hir cyn eu golchi yn un ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Dydyn nhw ddim yn mynd i lanhau eu hunain Owain!!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Porthmadog - does nunlla gwell nag adra. Teulu, ffrindia, atgofion melys ac mae'n anodd curo'r olygfa o ddod dros y Cob ac edrych yn ôl at Eryri a'r Wyddfa ar ddiwrnod braf. Mynyddoedd a'r môr… be' arall mae rhywun angen 'de?

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson y Gamp Lawn yn 2005. Y Camp Lawn gyntaf i mi brofi yn fy mywyd ac mi oedd hi'n ddiwrnod a hanner. Mi o ni'n un o filoedd oedd wedi stwffio fel sardins i wylio'r gêm yn erbyn Iwerddon tu allan i'r Amgueddfa yng Nghaerdydd ar y sgrin fawr.

Mi oedd yr awyrgylch yn arbennig, Cymry a Gwyddelod yn cofleidio a dathlu ar ôl y chwiban olaf, cwrw yn cael ei daflu o gwmpas y lle fel siampên, a hynny efo'r haul yn tywynnu fel diwrnod o haf… dwi'm yn meddwl bod Caerdydd wedi gweld noson debyg wedyn!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Uchelgeisiol, gweithgar a ffyddlon

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi'm yn siwr os oes gen i hoff lyfr. Does yr un i weld yn sefyll allan fwy na'r llall ar y funud. Mi o'n i'n hoff o 'Lord of the Rings' gan J.R.R. Tolkein a 'Da Vinci Code' gan Dan Brown.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Mae gen i rhyw fleece lwyd, sydd yn y bôn yn ddigon diflas ond yn gyfforddus.

Roedd hi gen i cyn i mi fynd i brifysgol. Rhywsut mae hi'n dal gen i a dwi'n dal i'w gwisgo hi ar brydia'. Dwi'm yn siŵr os oes rhywbeth arbennig am y dilledyn ond mae o wedi bod yn fy nghwpwrdd dillad yn hirach nac unrhyw beth arall.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Batman vs Superman' - dwi wrth fy modd efo ffilmiau uwcharwyr. Dim ots pa mor wael ydi'r adolygiadau, dwi'n dal am eu gwylio.

Ers dyddiau Christopher Reeve mae'n siwr mai Superman ydi fy hoff uwcharwr erioed… dwi ddim yn siwr sut oedd gan Batman unrhyw gyfle yn erbyn Superman!!

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Dim syniad… Gerard Butler, Ryan Reynolds, Leonardo DiCaprio, Tom Hardy - dim ots gen i unrhyw un o rheina a siŵr bod yna fwy 'swn i'n ddigon hapus i'w rhoi ar y rhestr.

Er nabod fy lwc i - Arnold Schwarzenegger gan bod fy acen Saesneg i cynddrwg â'i un o…

Disgrifiad o’r llun,

Arnie: Does bosib' na fyddai ei acen Gymraeg o yn waeth na'i acen Saesneg o!

Dy hoff albwm?

'Fuzzy Logic' gan y Super Furries… dyna sydd yn y chwaraewr CDs rwan ar ôl ei dyrchu o'r cwpwrdd ar ôl sawl blwyddyn.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs… mwy o fwyd i'w fwyta!!! Yn arferol rhywbeth fel steak and chips fyswn i'n ddewis ond yn ddiweddar dwi di dechrau dewis bwyd môr.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

James Bond… oes angen esbonio pam?!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Geraint Hardy

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Owain i'r amlwg fel un o gyflwynywr Stwnsh ar S4C