Etholaethau Cynulliad 2016

  • Cyhoeddwyd

Mapiau rhyngweithiol i ddangos sut mae`r Cynulliad newydd yn edrych yn dilyn etholiad 5 Mai.

Yng Nghymru mae hi`n debygol y bydd Llafur yn ffurfio llywodraeth leiafrifol ar ôl ennill 29 o`r 60 sedd yn etholiad y Cynulliad nos Iau. Dim ond un etholaeth wnaeth newid lliw, gyda Leanne Wood yn cipio sedd Rhondda ar ran Plaid Cymru oddi wrth y Blaid Lafur.

Y newid mawr gwleidyddol arall oedd bod UKIP wedi ennill 7 sedd ranbarthol.

Mae'r ddau fap isod yn dangos nifer y seddi etholaethol y llwyddodd y pleidiau i'w cipio y tro hwn. Nid yw'r mapiau'n cynnwys y seddi rhanbarthol.

Canran y bleidlais i`r pleidiau fesul etholaeth

Er na lwyddodd UKIP i ennill sedd etholaethol, mae`r map rhyngweithiol yn dangos ym mha 5 etholaeth y llwyddodd y blaid i ennill mwy na 20% o`r bleidlais.

Merthyr Tudful a Rhymni, Dwyrain Casnewydd, Islwyn, Torfaen lle ddaeth y blaid yn ail, a Chaerffili lle roedden nhw`n drydydd.

Mewn 3 o`r seddi yma, mae`n ymddangos bod UKIP wedi ennill pleidleisiau ar draul y blaid Lafur gan fwyaf, ond roedd yna hefyd golledion i Lafur a`r Democratiaid Rhyddfrydol mewn un, a phleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi disgyn mewn lle arall.

Roedd canran pleidlais y Ceidwadwyr hefyd wedi disgyn mewn 3 o`r 5 etholaeth ond nid i`r un graddau.

Nid yw eich porwr yn cefnogi'r cynnwys rhyngweithiol hwn

.