Cyhoeddi rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn 2016

  • Cyhoeddwyd
dysgwyr y flwyddynFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Rwth, Hannah, Naomi, Rachel a Sarah sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2016

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau pum dysgwr sydd ar restr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2016.

Enwau'r rheiny ddaeth i'r brig eleni yw Rwth Evans o Gaerdydd, Rachel Jones o Lanfair-Ym-Muallt, Naomi O'Brien o Fedlinog, Sarah Reynolds o Gaerfyrddin a Hannah Roberts o Frynmawr.

Cynhaliwyd rownd gynderfynol y gystadleuaeth dros y penwythnos ac, am yr eildro erioed, mae'r beirniaid wedi rhoi pum ymgeisydd ar y rhestr fer yn y gystadleuaeth.

Bydd y rownd derfynol yn digwydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, sy'n cael ei gynnal yn Y Fenni ym mis Awst.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Elwyn Hughes, Sandra De Pol ac Angharad Mair.

'Gallu arbennig'

Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: "Fel arfer, pedwar sy'n cyrraedd y rhestr fer yn y gystadleuaeth, ond roedd y beirniaid yn bendant, bod pum ymgeisydd yn llawn haeddu'u lle yn y rownd derfynol eleni.

"Erbyn hyn, mae Dysgwr y Flwyddyn yn un o brif gystadlaethau'r Eisteddfod, ac mae gallu'r pum ymgeisydd eleni i ddysgu'r Gymraeg yn arbennig.

"Mae gan y pum ymroddiad, egni, a dawn ieithyddol ardderchog, ac mae hon yn mynd i fod yn gystadleuaeth anodd iawn i'w beirniadu yn ystod wythnos yr Eisteddfod."

Y pump olaf

Merch fferm o Lanfair-Ym-Muallt yw Rachel Jones, sy'n dal i fyw ar fferm y teulu yn Llanafan Fawr.

Mae teulu Naomi o dras Tseiniaidd ac mae dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd hunaniaeth ganddi.

Daeth Hannah at y Gymraeg drwy ddamwain pan oedd adref un haf o'r brifysgol ac yn chwilio am "rhywbeth i'w wneud".

Mae Sarah wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua saith mlynedd, ac wedi llwyddo i gyhoeddi nofel.

Mae Rwth yn defnyddio'i sgiliau Cymraeg yn wirfoddol gyda'r RNIB drwy recordio adnoddau Cymraeg i blant dall.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi nos Fercher, 3 Awst mewn seremoni arbennig, ble bydd yn derbyn tlws arbennig a £300.

Bydd y pedwar arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlysau a £100 yr un, hefyd yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.