Agor wyrcws o oes Fictoria Y Dolydd ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Bydd yr unig wyrcws o oes Fictoria yn cael ei agor i'r cyhoedd ym Mhowys ar ôl cael arian loteri i greu canolfan hanes.
Fe agorodd Wyrcws Llanfyllin, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel Y Dolydd, yn 1839 ac roedd yn gallu darparu llety i hyd at 250 o ddynion, merched a phlant.
Llynedd cafodd Ymddiriedolaeth Diogelu Adeilad Y Dolydd grant o £39,000 gan y Gronfa Treftadaeth Loteri er mwyn sefydlu'r ganolfan.
Bydd hi'n cael ei hagor gan yr awdur, hanesydd a'r cyflwynydd teledu, Trevor Fishlock, ddydd Sadwrn.


Yn y ganolfan bydd posib gweld ffilm 30 munud o hyd, Ysbrydion y Wyrcws, sy'n cynnwys actorion lleol yn dangos bywyd tlawd yn oes Fictoria yng Nghymru.
Yn y ffilm mae William Jones, y meistr cyntaf, yn dangos y ffordd i'r gwylwyr o gwmpas y wyrcws ac yn cyflwyno ysbrydion eraill, dynion, merched a phlant oedd yn byw ac yn gweithio yno dros y blynyddoedd.
Dywedodd Richard Bellamy o Gronfa Treftadaeth y Loteri: "Mae'r ganolfan hanes yn dweud stori bwysig ac yn adlewyrchu ar gyfnod pwysig ym mywyd Cymru ac mae'r prosiect yma yn allweddol er mwyn helpu pobl i ddeall sut wnaeth pobl fyw yn oes Fictoria a sut mae agweddau wedi newid dros amser."