Yr Wyddfa: Gofyn i ymwelwyr 'gyfrannu' at gost llwybrau

  • Cyhoeddwyd
wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelwyr ar gopa'r Wyddfa

Mae cynlluniau ar y gweill am y tro cyntaf erioed i ofyn i ymwelwyr gyfrannu tuag at gost cynnal a chadw'r llwybrau ar Yr Wyddfa.

Mae'r syniad yn cael ei grybwyll mewn dogfen gan Bartneriaeth Yr Wyddfa oherwydd pryderon cynyddol am y difrod sy'n cael ei achosi gan yr 500,000 sy'n troedio'r llwybrau yn flynyddol.

Bydd y cynllun peilot 18 mis yn cael ei lansio fis nesa. Os yn llwyddiannus, y gobaith ydi ei ddatblygu ar gyfer Eryri gyfan er mwyn elwau gwahanol brosiectau cadwraeth a phrosiectau lleol.

Fe fydd busnesau yn cynnig sawl ffordd i roi rhodd. Mae'n bosib iddyn nhw ofyn i ymwelwyr a ydyn nhw am ychwanegu cyfraniad at eu bil neu adael rhodd mewn amlen mewn llefydd gwely a brecwast.

Fe all cwmnïau hefyd roi yn syth o'u helw i'r cynllun.

Manylu

Ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru ddydd Iau mae sylfaenydd Ras Yr Wyddfa, Ken Jones o Lanberis, yn dweud ei bod yn hen bryd gofyn am rywbeth yn ôl gan yr ymwelwyr.

"Welish i 'rioed gymaint o ddefnydd ar lwybr Llanberis," meddai. "Ar ben hynny mae 'na feiciau yn defnyddio'r llwybr rŵan a ddylia pobl gyfrannu at hyn. Mae'r llwybr mewn rhannau wedi lledu gymaint mae o bron fatha priffordd.

"Mae'r miloedd yma'n dod yma a dydyn nhw ddim yn gwario gymaint ac mae pobl yn honni bod nhw.

"Maen nhw'n parcio am ddim, dod a'u bwyd efo nhw, bwyta fo ar y mynydd, dod lawr a mynd o 'ma. Dydyn nhw'n cyfrannu dim i'r economi leol.

Disgrifiad,

Yr olygfa o gopa'r Wyddfa

"Ond maen nhw'n bobl iawn, a dwi di bod yn gofyn iddyn nhw a fysa nhw yn fodlon cyfrannu rhyw bunt i helpu a maen nhw'n deud y bysa nhw. Mae'n digwydd yn Cwm Idwal ac yn Llanddwyn ac mewn gwledydd eraill."

Yr Wyddfa ydy'r mynydd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain.

Erbyn hyn mae 200,000 yn fwy yn cerdded i'r copa na sy'n ymweld â Scafell Pike a Ben Nevis gyda'i gilydd - ac mae'n cynyddu bob blwyddyn.

Er bod yr Wyddfa dan ofal Parc Cenedlaethol Eryri, mae nifer o bobl wahanol yn rhan o edrych ar ôl y mynydd ac mae cyfuniad o'r cwmnïau, asiantaethau ac unigolion yma wedi ffurfio Partneriaeth yr Wyddfa i gytuno ar ffyrdd o'i rheoli.

Un o'r prif bethau mae'r bartneriaeth wedi cytuno arno yn barod ydy i beilotio cynllun "Visitor Giving" o'r enw Rhodd Eryri fydd yn dibynnu ar fusnesau lleol i annog, ond nid gorfodi, eu cwsmeriaid i gyfrannu.

Y bwriad ydy defnyddio'r arian tuag at gostau prosiectau cadwraeth leol, gyda'r parc yn arwain y fenter.

llwybr3

"Os fedrwn ni gael pobl i ddechrau deall yr effaith maen nhw yn ei gael ar y mynydd, ddim jest dod yma i ddefnyddio'r Wyddfa, fod nhw hefyd isho gwarchod yr ardal, dyna fel fedrwn ni lwyddo dwi'n meddwl," meddai Helen Pye, uwch warden gogledd Eryri.

Y bwriad ydy defnyddio'r arian i wella rhan o lwybr Llanberis i fyny'r Wyddfa, datblygu llwybrau o gwmpas iseldir yr Wyddfa, a hefyd tuag at gynllun gan Gymdeithas Eryri i addysgu pobl ifanc am gefn gwlad a datblygu sgiliau traddodiadol.

Mae 18 o gwmnïau wedi cytuno i fod yn rhan o'r cynllun peilot. Mae Rheilffordd Llyn Padarn, un o fusnesau mwyaf Llanberis, eisoes wedi dweud eu bod nhw am gefnogi.

Fe gysylltwyd â dros 100 o gwmnïau, ond tua 20% sydd wedi bachu ar y cynllun.

"Dwi'n meddwl ei fod yn syniad da iawn," meddai Nick Johnson, Prif Weithredwr cwmni Three Peaks Challenge.

"Mae 'na gynllun tebyg yn Swydd Caer Efrog da ni'n gefnogol iddo ac mae nifer o bobl sydd yn gwneud y Three Peaks gyda ni yn cyfrannu iddo, ac mi fysa ni yn fwy na hapus i wneud yr un fath yma."

MANYLU, BBC Radio Cymru, Mai 19 am 12.30pm a Dydd Sul, Mai 22 am 16:00pm.