Ateb y Galw: Gwyneth Glyn

  • Cyhoeddwyd
Gwyneth GlynFfynhonnell y llun, A Morgan

Y gantores Gwyneth Glyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Heather Jones yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Gorwedd ar garthen yn yr ardd, yn edrych i fyny ar ddail y goeden 'falau'n dawnsio uwch fy mhen, a gwrando ar gân y deryn du.

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Hogiau drwg Ysgol Nefyn.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ro'n i'n westai ar soffa Nia Roberts ar raglen deledu fyw Eisteddfod yr Urdd, ac roedd un o bwysigion yr Ŵyl yn eistedd drws nesa' i mi. Ar fin mynd ar yr awyr oeddan ni pan sylwais fod rhywbeth hyll iawn (darn o fwyd, tybiais) wedi glynu i un o ddannedd blaen y dyn. Teimlais reidrwydd i roi gwybod iddo, rhag ofn iddo edrych yn hurt at y teledu.

"Mae ganddoch chi rwbath ar eich dant" dywedais yn garedig, gan bwyntio at ei geg.

"Mi wn i - mae o yno erioed" atebodd yntau, ddim cweit mor garedig. Fymryn yn lletchwith fu'r sgwrs ar y soffa wedi hynny!

Ffynhonnell y llun, RSPB
Disgrifiad o’r llun,

"Cofio fi Gwyneth?"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth ffarwelio â 'nghariad.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, digonedd!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llanarmon, Eifionydd, gan mai yma oedd y goeden 'falau a'r deryn du, y tylwyth teg y byddwn i'n llythyru efo nhw, a'r bobol anwyla'n y byd.

Disgrifiad o’r llun,

"Annwyl Gwyneth, diolch am ysgrifennu..."

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi'n cofio pob manylyn, ond wna i ddim rhannu rheiny, dim ond deud ei bod hi wedi digwydd yn annisgwyl, ac wedi newid fy mywyd am byth.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

I ble nesa?

Beth yw dy hoff lyfr?

'Women Who Run With The Wolves' gan Clarissa Pinkola Estes, a Beibl y Plant - yr un fydda ganddon ni yn Ysgol Sul Pencaenewydd yn yr 80au.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Mi allwn i fyw hebddi dwi'n siŵr, ond dwi'n hoff iawn o gôt anghyffredin gan Diane Von Furstenberg. Mi prynais hi yn y sêl yn Harvey Nichols Llundain rhyw ddeg mlynedd yn ôl, a dwi'n dal i'w gwisgo hi bob gafal. Mi wnes i fyw hebddi am ryw wythnos, pan rois ei menthyg hi i'm chwaer, Lusa, i fynd i Berlin. Mi gafodd hi gompliments yn fanno hefyd! Mae pobol yn dod ata i o hyd i ofyn o ble ces i hi. Ella na fyddan nhw'n gorfod holi rwan!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Star Wars - 'The Empire Strikes Back' ar DVD. Rydw i ar ganol cyflwyno fy mab, Maelgwn i'r drioleg wreiddiol.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Fy nith Brengain Glyn, gan ei bod hi'r un ffunud â fi yn ifanc, yn chwarae gitâr ac yn chwip o actores.

Ffynhonnell y llun, Lleucu Meinir
Disgrifiad o’r llun,

"Da di'r cerddi 'ma chi!"

Dy hoff albwm?

'Blue' gan Joni Mitchell a 'Blood on the tracks' Bob Dylan.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Mae gen i ddant melys, ond mae pob cwrs yn fendigedig yn 'La Cuina', bwyty Catalanaidd hyfryd ym Mhontcanna, Caerdydd.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Deryn du.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Nici Beech