'Egni newydd' bwrdd iechyd sydd mewn mesurau arbennig
- Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi dweud fod gan y bwrdd "egni newydd" a'i fod yn dangos cynnydd, er ei fod yn parhau mewn mesurau arbennig.
Cafodd y mesurau eu cyflwyno union flwyddyn yn ôl gan weld y Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n uniongyrchol ar agweddau o reoli Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dilyn nifer o fethiannau.
Betsi Cadwaladr: Iechyd meddwl yn 'her'
Daeth adroddiad damniol am ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd i'r casgliad fod "camdriniaeth sefydliadol" yn bodoli ar y ward cyn iddo gau ym mis Rhagfyr 2013.
Roedd teuluoedd wedi adrodd bod cleifion ar y ward wedi cael eu trin fel anifeiliaid mewn sw.
Fe waeth nifer o adroddiadau swyddogol eraill feirniadu arweinyddiaeth y bwrdd iechyd, a'r ffordd yr oedd gwasanaethau meddygon teulu a gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau brig yn cael eu rheoli.

Peter Higson, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
'Cynnydd'
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Peter Higson, fod y bwrdd iechyd wedi dangos cynydd yn ei berfformiad.
"Fe ddechreuon ni gyda chynlluniau 100 niwrnod, gafodd eu disodli gan gynlluniau ar gyfer materion penodol am y mesurau arbennig," meddai. "Ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd da dros y flwyddyn.
"Mae'n ymddangos fel bod mesurau arbennig wedi datgloi llawer o egni ymysg staff. Mae staff yn wirioneddol am weld y bwrdd yn gweithio, ac am weld gwelliannau eu hunain.
"Mae gan y staff lawer o frwdfrydedd am yr hyn y maen nhw yn ei wneud, a rhaid i ni wneud mwy i'w cefnogi. Rwy'n teimlo fod llawer o frwdfrydedd o gwmpas y sefydliad."

Cafodd uwch-reolwyr y bwrdd iechyd eu beirniadu am beidio ag ymateb i rybuddion blaenorol am ward Tawel Fan
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gael ei osod mewn mesurau arbennig - sef y cam uchaf allan o dri math o ymyrraeth wahanol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ystod Hydref 2015 y byddai'r bwrdd iechyd yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd.
'Blwyddyn arall'
12 mis yn ddiweddarach, mae'r bwrdd iechyd yn dweud y bydd angen blwyddyn arall o leiaf er mwyn datrys nifer o'r problemau oedd yn bodoli yn llawn.
Ychwanegodd Peter Higson: "I mi, mae'n ymwneud ag amseroedd aros a gofal heb ei amserlennu. Fe wnaethon ni orffen y flwyddyn gyda nifer sylweddol o bobl yn aros yn hirach na ddylie nhw, yn enwedig yn y maes orthopedig.
"Mae'n rhaid i ni daclo rhain, mae'n rhaid i ni edrych ar ein sefyllfa ariannol sylfaenol. Fe wnaethon ni orffen y flwyddyn gydag ychydig dros £20m o orwario yn erbyn cyllideb o £1.3bn. Mae'n rhaid i ni ddangos sut y gallwn ni ddod a'r holl gyfundrefn yn ôl yn gytbwys.
"Yn fy marn i mae amserlen o ddwy flynedd yn gywir - mae angen y cyfnod yma o amser i gael popeth lle'r ydym yn dymuno iddo fod. Yn benodol, ym maes iechyd meddwl, fe fyddwn angen 18 mis arall cyn i ni fod mewn sefyllfa lle'r ydym am iddo fod."

Geoff Ryall-Harvey o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru
Mae Geoff Ryall-Harvey o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn cydnabod bod gwelliannau wedi digwydd, ond mae'n credu y gall gymryd mwy na dwy flynedd cyn y bydd y bwrdd iechyd yn ad-ennill hyder pobl gogledd Cymru.
"Un o'r pethau rwyf fi wedi ei weld yn newid yw'r uchelgais. Cynt, yr uchelgais oedd bod yn y canol, ac nid yn sefyll allan. Nawr yr uchelgais yw i fod y gorau.
"Ond dros gyfnod o dair i bedair blynedd mae cymaint o broblemau wedi bod, mae wedi naddu hyder pobl yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn cael ei redeg. Mae hyder y cyhoedd ar ei isaf, ag yn anffodus mae hyn yn cymryd amser hir i wella."