AS yn gwrthwynebu pleidleisio gorfodol
- Cyhoeddwyd
Mae AS Ceidwadol amlwg o Gymru wedi dweud y byddai'n gwrthwynebu unrhyw gynlluniau ar gyfer pleidleisio gorfodol yn etholiadau'r Cynulliad.
Mae dadlau wedi bod ynglŷn â chynlluniau ar gyfer datganoli pellach i Fae Caerdydd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns y byddai gan ACau bwerau i orfodi pobl i fwrw eu pleidlais.
Ond dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, David Davies wrth BBC Cymru, y byddai'n "wyliadwrus" o unrhyw gamau o'r fath.
Dywedodd: "Os na all gwleidyddion berswadio pobl i ddod allan a chefnogi rhywun, tydi'r bai ddim yn gorwedd gyda'r cyhoedd."
Ychwanegodd Mr Davies, AS Mynwy: "Nid ceisio argyhoeddi ein hunain ein bod i gyd yn berthnasol a phoblogaidd, drwy orfodi pobl i bleidleisio, neu eu cosbi mewn rhyw ffordd, yw'r ateb yn fy marn i."
Ym mis Ebrill, dywedodd Ken Skates Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru y dylid ystyried cyflwyno 'pleidleisio gorfodol', i roi hwb i'r Cynulliad.
Mae Llafur wedi gwrthod y syniad yn y gorffenol, yn ogystal â'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a UKIP.
Mae 11 o wledydd yn gorfodi etholwyr i gymryd rhan mewn etholiadau - gan gynnwys Awstralia.
Y ganran a bleidleisiodd yn yr etholiad Cynulliad ym mis Mai oedd 45.3%.