Gyrfa Boris Johnson wedi ei 'dinistrio' medd Guto Harri

  • Cyhoeddwyd
Guto

Mae gyrfa wleidyddol Boris Johnson wedi ei "dinistrio" meddai'r cyn newyddiadurwr Guto Harri.

Fe weithiodd Guto Harri yn agos gyda Boris Johnson fel ei Gyfarwyddwr Cyfathrebu pan oedd Johnson yn Faer Llundain.

Dywedodd fod Mr Johnson wedi ymateb yn "rhy gyflym" ac nad oedd wedi "chwarae i'w gryfderau" yn ystod yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd ei "gynllun wedi mynd ar chwâl".

Dywedodd Mr Harri y byddai yn rhaid i'r gwleidydd nawr ddychwelyd i fod yn "drysor cenedlaethol."

Yn ystod araith yn Llundain ddydd Iau dywedodd Mr Johnson nad oedd yn credu y gallai ddarparu'r arweiniad oedd angen i fod yn Brif Weinidog ac na fyddai yn gallu uno'r blaid Geidwadol.

Roedd nifer yn credu fod y digwyddiad wedi ei drefnu am ei fod am gyhoeddi y byddai yn ceisio am swydd y Prif Weinidog.

Dywedodd Guto Harri wrth y BBC: "Mae'n rhaid ei fod wedi dod i'r casgliad bod yna amheuaeth ddigonol na fyddai yn cael digon o gefnogaeth."

Dywedodd ei fod yn tybio fod Mr Johnson wedi synhwyro bod y rhod wedi troi a bod rhai oedd yn ei hoffi ddim yn teimlo felly erbyn hyn.

"Mae Boris Johnson wastad wedi bod yn drysor cenedlaethol. Bydd yn rhaid iddo fynd yn ôl i fod yn hynny ond fel gwleidydd mae ei yrfa wedi ei dinistrio ac mae hynny am ei fod wedi cam ddehongli'r sefyllfa."