Pwy yw David Cameron?

  • Cyhoeddwyd
cameronFfynhonnell y llun, EPA

Cafodd David William Duncan Cameron ei eni yn Llundain ym mis Hydref 1966, y trydydd o bedwar o blant.

Ym mis Rhagfyr 2005 cafodd David Cameron ei ethol yn arweinydd ei blaid gyda mwyafrif clir.

Llai na phedair blynedd o brofiad yn San Steffan oedd ganddo ar ôl cael ei ethol yn AS Witney yn 2001.

Mewn llai na 10 mlynedd cafodd ei benodi yn Brif Weinidog, y prif weinidog ieuengaf ers Robert Banks Johnson yn 1812.

Cafodd ei addysgu yn un o ysgolion bonedd enwoca' Prydain, Eton - doedd 'na ddim un cyn-ddisgybl wedi bod yn Brif Weinidog ers y 1960au.

Gwaed glas

Yn un sy'n gallu olrhain ei achau at William IV mae Mr Cameron yn perthyn o bell i'r Frenhines.

Wedi gadael yr ysgol graddiodd o Brifysgol Rhydychen gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg.

Cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2001 bu'n gweithio i'r Blaid Geidwadol yn eu hadran ymchwil cyn symud fel ymgynghorydd i'r Trysorlys a'r Swyddfa Gartref.

Wedi cyrraedd San Steffan cafodd ei benodi yn 2003 yn ddirprwy arweinydd y tÅ· ar ran yr wrthblaid ac yna yn 2005, cyn cael ei ethol yn arweinydd ei blaid, yn llefarydd yr wrthblaid ar addysg.

Dyn teulu

Mae o wedi cael ei ddisgrifio gan ffrindiau fel dyn ffraeth, yn ddyn teulu sy'n mwynhau cynnal parti yn ei gartref yn Sir Rhydychen, ac yn un sydd ddim yn hoffi siarad am waith mewn achlysuron cymdeithasol preifat.

Bu hefyd yn gweithio fel pennaeth cysylltiadau corfforaethol cwmni teledu Carlton.

Mae'n briod à Samantha, merch y tirfeddiannwr Syr Reginald Sheffield, ac mae ganddyn nhw dri o blant, Nancy Gwen, Arthur Elwen a Florence Rose Endellion.

Bu farw eu plentyn cyntaf, Ivan ym mis Chwefror 2009 oedd yn ddibynnol ar ofal 24 awr oherwydd ei anabledd.