Owen Smith: Ail bleidlais gyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Owen Smith eisiau ail bleidlais gyhoeddus unwaith y bydd y DU wedi cytuno ar fargen Brexit gyda'r UE, yn ôl un papur newydd.
Dywedodd Mr Smith wrth y Guardian y dylid cynnal etholiad cyffredinol, neu refferendwm "pan fydd y termau yn glir".
Dywedodd ei fod yn amlwg fod pobl yn awyddus i gael mynediad i'r farchnad sengl yn ogystal â chael rheolaethau ar fewnfudo.
Mae Mr Smith yn herio Jeremy Corbyn i fod yn arweinydd y Blaid Lafur, gyda'r AS Angela Eagle hefyd yn sefyll.