Cymru yn yr Oes Haearn
- Cyhoeddwyd

Dyma sut y byddai Bryn Eryr wedi edrych yn Oes yr Haearn. Bydd nifer o bobl wedi eu gwisgo yn nillad y cyfnod yn dehongli bywyd y cyfnod i ymwelwyr
Mae atyniad diweddara' Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru erbyn hyn ar agor i'r cyhoedd. Fferm o'r Oes Haearn yw Bryn Eryr. Mae'r adeilad yn ailgread o fferm fechan ger Llansadwrn yn nwyrain Ynys Môn.
Mae'r adeilad yn cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai sy'n chwe throedfedd o drwch, a thoeau gwellt siâp côn.
Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cannoedd o wirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol o Drelái a Chaerau. Dyma i chi gipolwg ar y gwaith o godi'r atyniad. Diolch i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am gael rhannu'r lluniau:

Dechrau'r daith - safle Bryn Eryr yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru

Paratoi'r tîr ar safle Bryn Eryr, fferm yn Ynys Môn sy'n deillio nol i'r Oes Haearn Newydd

Y safle yn cael ei farcio

Mi fedrwn ni weld siapiau'r waliau. Bydd dau dŷ crwn yn cael eu codi yma

Casglu gwellt ar gyfer Bryn Eryr

Mae hi fel cynhaeaf gwair!

Mae'r waliau yn codi'n araf

Y pensaer Gerallt Nash yn arwain y gwaith cynllunio

Mae angen hyfforddi nifer o wirfoddolwyr brwdfrydig

Bydd cannoedd o wirfoddolwyr gan gynnwys plant ysgol ac aelodau o gymunedau cyfagos Caerau a Trelai yn helpu gyda'r gwaith o godi Bryn Eryr

Mae symud y clai yn waith caled! Bydd 'na ddyfnder o chwe troedfedd i'r waliau felly mae angen cryn dipyn o glai!

Paratoi'r polion

Mae'r polyn canol wedi ei godi. Bydd modd gosod y tô gwellt cyn bo hir

Mae 'na gadernid i'r strwythur

Y tai yn barod i'w toi

Y tai crwn wedi eu cwblhau