Tîm Olympaidd Cymru?

  • Cyhoeddwyd
angharad

Yr wythnos yma bydd 24 o Gymry yn cystadlu yn Rio de Janeiro fel rhan o dîm Olympaidd Prydain.

Ond pa mor ymarferol yw hi i gael tîm Olympaidd Cymru? Fe wnaeth y ddarlledwraig Angharad Mair gynrychioli Prydain yn y Marathon ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Athen yn 1997. Bu'n egluro ei safbwynt hi wrth Cymru Fyw:

line

Cystadlu dros Brydain

Pan o'n i'n cystadlu dros Brydain o'n i'n teimlo'n falch iawn o'r ffaith, achos o'n i'n ei weld e fel y cam nesa' ar ôl cynrychioli Cymru, ac roedd e'n debyg i bryd mae chwaraewr rygbi Cymru yn cynrychioli'r Llewod.

Doedd dim dewis, os oedd rhywun eisiau mynd i Bencampwriaethau'r Byd roedden nhw'n gorfod cynrychioli tîm Prydain. Oddi mewn i'r tîm hwnnw wedyn roedd hi'n amlwg i bawb bob amser mod i'n Gymraes, ac roedd hynny'n ffordd fel nes i resymu pethe yn fy mhen.

Ges i fy newis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad rhyw dro ond ges i anaf a methu mynd yn anffodus. Ond be gewch chi gyda Gemau'r Gymanwlad yw cystadleuwyr yn dweud pa mor braf yw hi i gystadlu dros Gymru a gwisgo fest goch, yn hytrach na chynrychioli Prydain, ac mae 'na rhyw fath o deimlad o hunaniaeth wahanol wrth gynrychioli Cymru yn hytrach na Phrydain.

Byswn i'n cefnogi tîm Olympaidd i Gymru 100%. Y ddadl mae rhai pobl yn ei roi yn erbyn cael tîm Olympaidd i Gymru, heblaw am yr ochr ariannol efallai, yw y bydde hi'n amhosib cael tîm cyflawn mewn ambell i gamp. Er enghraifft bydde rhai yn dweud "bydde'n anodd cael tîm hoci Cymru yn yr Olympics".

Dydi hynny ddim yn wirioneddol wir, be fyse'n digwydd yw bydde pob gwlad yn gorfod cystadlu i gyrraedd Gemau'r Olympaidd, felly os nad yw tîm Cymru'n ddigon cryf bydde nhw ddim yn mynd.

Mae eraill yn dadlau o safbwynt rhoi'r cyfle i bobl gystadlu fel rhan o dîm Prydain, ond byswn i'n dadlau dros hawl yr athletwr i gystadlu yn enw Cymru a dangos eu hunaniaeth Gymreig.

Adnoddau

Mae canolfannau arbenigo tîm Prydain ar gyfer campau gwahanol wedi eu lleoli ar draws gwledydd Prydain, ac felly mae rhai yn poeni am y diffyg adnoddau fydde yng Nghymru. Ond byswn i'n anghytuno achos allwch chi dal rannu'r canolfannau hynny.

Fel rhedwr fyddai eisiau mynd i Gemau'r Olympaidd fyswn i ddim yn ymarfer yng Nghymru, byswn i'n mynd i rywle gydag uchelder a hinsawdd gwell i'n mharatoi i.

Mae'r treiathlwr o Gymru, Non Stanford, yn ymarfer yn St Moritz, mae Mo Farah yn ymarfer yn America, ac mae eraill yn ymarfer yn Kenya neu yn Moroco a gwledydd eraill. Pan oni'n rhedeg oni'n mynd i'r ganolfan arbenigol yn y Pyrenees yn aml, ac roedd lot o focswyr yno hefyd.

Felly does 'na ddim gwahaniaeth os yw bocswyr Cymru yn ymarfer yn y Pyrenees neu yn Sheffield lle mae carfan bocsio Olympaidd Prydain wedi ei lleoli. Maen nhw'n gampau byd eang, ac mae'r athletwyr am geisio mynd i'r llefydd gorau lle bynnag maen nhw.

Non
Disgrifiad o’r llun,

Y pencampwraig treiathlon, Non Stanford

Bydde athletwyr o Gymru yn cael mwy o gyfle i gyrraedd gemau Olympaidd fel rhan o dîm Cymru gan mai cyrraedd y safonau/amseroedd i gyrraedd byddai rhaid gwneud a dim cystadlu yn erbyn athletwyr o wledydd eraill Prydain. Fel gwelwn i o'r tîm pêl-droed yn ddiweddar, beth sy'n digwydd yw bod y rheiny sy'n cynrychioli Cymru mewn chwaraeon wir yn gallu rhoi'r wlad ar y map.

Cymru'n elwa

O safbwynt economaidd i Gymru a chodi pwysigrwydd Cymru fel gwlad fydde cael athletwyr yno yn cynrychioli Cymru yn y seremoni agoriadol ac yn llwyddo a dod yn adnabyddus fel pobl o Gymru fel Non Stanford sy'n bencampwr byd - bydde hynny'n talu ar ei ganfed i Gymru hefyd, er efallai fe fysa'n fwy costus i anfon pobl yno.

Mae pobl yn gweld gwledydd bach yn y Gemau Olympaidd, ac yn aml iawn mae'r gwledydd bach 'ma yn ffeindio rhyw arbenigedd. Eleni bydd rygbi saith bob ochr yn rhan o'r gemau, ond mae cyn lleied o Gymry yn y garfan!

R'yn ni'n wlad sy'n enwog am ein rygbi, ond oherwydd fod y chwaraewyr yn cystadlu gyda gwledydd eraill Prydain am le yn y tîm mae cyn lleied yn mynd. Felly mae yna rhai campau o fewn y Gemau Olympaidd lle bydde Cymru yn gallu gwneud yn aruthrol o dda a chystadlu gyda'r gorau yn y byd.

angharad
Disgrifiad o’r llun,

Fe dorodd Angharad record Prydain yn y ras i fenywod dros 55 oed ym Marathon Llundain eleni, 2 awr 57 munud

Hunaniaeth

Gan nad ydyn ni yn cael cystadlu fel Cymru ar hyn o bryd, byswn i'n licio gweld gwisg athletwyr Prydain yn dynodi o ba wlad 'ma nhw'n dod. Bydde athletwr o Gymru fel Seren Bundy-Daveis gyda draig goch ar ei gwisg, a rhywun o'r Alban a'u baner nhw ar eu gwisg.

Byswn i'n hoffi gweld mwy o hunaniaeth o wahanol wledydd sy'n cystadlu o fewn Tîm Prydain yn cael ei nodi, yn wahanol i Gemau Olympaidd Llundain 2012 lle'r oedd y Ddraig Goch wedi ei wahardd ar un adeg.

Cael Tîm Cymru yw fy nyhead i, ond yn y tymor byr bydde'n dda i'r athletwyr ddangos ar eu gwisg eu bod yn cynrychioli Cymru o fewn tîm Prydain, a chael yr hawl i chwifio'r Ddraig Goch gyda balchder.