Eurig Salisbury yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn y Brifwyl

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Seremoni Priflenor Rhyddiaith

Eurig Salisbury yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.

Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Galw', ac roedd 14 o ymgeiswyr i gyd.

Y beirniaid oedd Angharad Dafis, Jane Aaron a Dafydd Morgan Lewis. Cyflwynwyd y Fedal a'r wobr ariannol o £750 gan Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Ar ôl y sermeoni dywedodd fod y profiad yn un bythgofiadwy: "Ry chi'n cael gwybod eich bod chi wedi ennill cyn dipyn o fisoedd yn ôl erbyn hyn, felly mae cadw'r gyfrinach yn anodd.

"Dwi di bod yn dychmygu camu i'r llwyfan yna fwy nag unwaith dros y blynyddoedd, felly, mae gallu ei wneud o o'r diwedd yn braf iawn, ac mae cael dal y gyfrol hefyd, wedi ei rhwymo fel hyn," meddai.

"Un peth ydy ei weld o ar sgrin gyfrifiadur, ond mae ei weld o mewn print yn beth arall.

"I fod yn gwbl onest gyda chi, wnes i ddim edrych ar y thema tan nes ymlaen. Roedd gen i stori i'w dweud.

"Efallai bo fi wedi cael cip ar y thema dipyn o flaen llaw a meddwl ei bod hi'n thema agored iawn. Roedd hynna'n apelio wedyn, faswn i'n gallu dweud y stori a ma'n siwr y bysa'r testun yn gallu ffitio i mewn rywle," ychwanegodd.

"Un o'r pethe cyntaf wnaeth danio fy nychymyg i oedd The Lord of the Rings gan Tolkien.

"Ar ôl darllen y gyfrol honno, ro'n i'n ben set ar fod yn sgwennwr fy hun. Nes i fynd ati i ddechrau sgwennu straeon.

"Nes ymlaen ddaeth y farddoniaeth a teimlo fy mod i'n gallu torri cwys i fi fy hun fel bardd, ond y cariad cynta o'r dechrau oedd rhyddiaith a straeon."

Cafodd Eurig Salisbury ei eni yng Nghaerdydd yn 1983 a'i fagu ym mhentref Llangynog yn Sir Gâr. Bu'n ddisgybl yn Ysgol y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin. Aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Aberystwyth, lle enillodd radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn 2004, a gradd MPhil ar ganu cynnar Guto'r Glyn yn Adran y Gymraeg yn 2006.

Wrth draddodi'r feirniadaeth a sôn am 'Cai' gan Siencin, dywedodd Angharad Dafis: "Nofel ddeheuig ydyw yn agor â chyfres o ddarluniau o Aberystwyth, gan hoelio sylw ac ennyn chwilfrydedd. Dyma stori gyffrous wedi ei dweud yn dda am awydd artist anweledig o Gymraes i ddarganfod y gwir am ddiflaniad ei nith.

"Efallai fod trawstiau'r tŷ yn rhy amlwg weithiau, ond mae'r adeiladwaith wedi ei saernïo'n gywrain. Chwedl Jane Aaron: 'Dod â'r tywyllwch... i olau dydd; dyna'r 'alwad' sy'n ysgogi Cai a Ffion wrth iddynt ymbalfalu yn archifau'r Llyfrgell Genedlaethol'.

'Alegori wleidyddol'

Gwelodd Dafydd Morgan Lewis alegori wleidyddol yn y nofel: "Synhwyrwn fod rhywbeth yn corddi yn isymwybod y genedl' meddai, 'rhyw annifyrrwch ac anesmwythyd mawr. Mae materion eraill fel rôl merch ym myd celf (ac yn y gymdeithas) ...yn brigo i'r wyneb hefyd.

"Darlunir cyflwr bregus economi gorllewin Cymru, a'r brifddinas yn sugno'r ieuenctid i'w chrombil. Mewnfudwyr a hen bobl sydd ym Mhen-llwch ger Brithdir erbyn hyn - lle sy'n 'marw ar 'i draed' yng ngeiriau Ffion. Wele Gymru y mae amser a chynnydd ac ymarfogi gwleidyddol fel pe baent wedi anghofio amdani.

"Ai nofel dditectif ynte nofel ddirgelwch ydyw, hyd yn oed os nad yw'r dirgelwch wastad mor gudd â hynny? Bydd i 'Cai' apêl eang, sut bynnag: camp Siencin yw iddo lwyddo i ddefnyddio fframwaith nofel boblogaidd i ddweud pethau y mae dirfawr angen eu dweud am Gymru a'r Gymraeg. Yr ydym fel tri beirniad yn unfryd - mewn cystadleuaeth y byddai'r annwyl John Rowlands yn falch iawn ohoni - ei fod yn llwyr deilyngu'r Fedal Ryddiaith."

Gyrfa

Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, penodwyd Eurig Sailsbury yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle cyfrannodd at dri phrosiect ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol, cyn ei benodiad, yn 2015, yn Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth yn 2008, a chyfrol o gerddi i blant yn 2011. Mae'n aelod o dîm y Glêr ar raglen Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, ac o dîm Sir Gâr yn Ymryson y Beirdd. Eurig oedd Bardd Plant Cymru 2011-13. Ef yw Golygydd Cymraeg cylchgrawn Poetry Wales.

Mae'n byw yn Aberystwyth gyda'i wraig, Rhiannon, a'u mab, Llew.