Surf Snowdonia 'yn sicr' o hyfforddi athletwyr Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Surf Snowdonia

Mae canolfan Surf Snowdonia "yn sicr" y bydd eu cyfleusterau nhw yn cael eu defnyddio fel canolfan hyfforddi ar gyfer Gemau Olympaidd 2020.

Fe fydd syrffio yn un o gampau newydd Gemau Tokyo ymhen pedair blynedd.

Yn ôl pennaeth academi'r ganolfan mae syrffwyr byd enwog eisoes wedi ymarfer yn eu cyfleusterau yn Nolgarrog, Eryri.

Cafodd y ganolfan ei hagor llynedd, ond bu'n rhaid ei chau am y gaeaf wyth wythnos yn gynnar oherwydd problemau technegol.

"Mae gan Surf Snowdonia ddilyniant byd eang syfrdanol ymysg syrffwyr proffesiynol; rydyn ni eisoes wedi denu rhai o'r syrffwyr gorau yn y byd ac rydyn ni'n aml yn cael ein defnyddio fel canolfan ymarfer gan athletwyr syrffio elît," meddai pennaeth Academi Syrffio Surf Snowdonia, Jo Dennison.

"Rydyn ni'n sicr y bydd ein cyfleusterau ni yn rhan hanfodol o'r cynllun hyfforddi ar gyfer carfan syrffio Olympaidd cyntaf erioed Prydain."

Ychwanegodd rheolwr gyfarwyddwr Surf Snowdonia, Andy Ainscough, bod cael ei chynnwys yn y rhaglen Olympaidd yn "newyddion enfawr i gamp syrffio".

Mae pennaeth y Gymdeithas Syrffio Rhyngwladol, Fernando Aguerre, eisoes wedi canmol y ganolfan yn Eryri gan ddweud bod cyfleusterau o'r fath wedi cyfrannu at wneud y "freuddwyd Olympaidd yn realiti" ar gyfer y gamp.