Cymro Cymraeg Euraidd y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Owain Doull o Gaerdydd yw'r Cymro Cymraeg cyntaf erioed i ennill medal aur mewn Gemau Olympaidd.
Cyflawnodd y gamp fel aelod o bedwarawd beicio Prydain yn y ras erlid yn y felodrom yn Rio nos Wener.
Mae Owain yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Wern, Llanishien ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Yn ogystâl â churo Awstralia yn y ras derfynol, llwyddodd y tîm i dorri record y byd gan orffen y ras 4km mewn amser o dri munud a 50.265 eiliad.
Meddai Owain: "Sain gallu credu'r peth. Sain gallu rhoi fe mewn i eiriau i fod yn onest.
"Oedden ni yn gwybod bydden ni yn dda, bydden ni probably yn mynd i ennill ond y bydde hi'n agos. Ac odd hi'n agos iawn, yn galed iawn."
Dywedodd hefyd ei bod hi'n braf cael cefnogaeth o adref yn Rio: "Mae hi mor neis cael y teulu allan yma hefyd, brawd, chwaer, mam, dad, wncwl, anti, cryn dipyn ohonyn nhw a'r ffans i gyd o Brydain."
Dywedodd ei dad, Iolo ei fod yn teimlo yn ofnadwy o nerfus yn ystod y ras: "Elon ni i Baris i weld Pencampwriaeth y Byd a nhw oedd y cyflymaf ond gollon nhw. Eto yn Llundain - union yr un peth.
"Ryw ddwy funud i mewn o'ch chi'n meddwl, ni'n mynd i golli eto. Ac wedyn yn y funud olaf, fe ddaethon nhw a fe yn ôl.
"Sain credu beth sydd wedi digwydd. Mae wedi bod yn wych."
Aelodau eraill y pedwarawd oedd Syr Bradley Wiggins, Ed Clancy a Steven Burke.
Mae medal aur Syr Bradley Wiggins yn golygu mai fo yw'r athletwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o fedalau erioed i Brydain mewn Gemau Olympaidd. Mae o wedi ennill cyfanswm o wyth medal gan gynnwys pump medal aur.