Dathlu Dahl
- Cyhoeddwyd
'Charlie a'r Ffatri Siocled', 'Y Twits', 'Matilda', 'Y Crocodeil Anferthol', 'James a'r Eirinen Wlanog Enfawr', mae'r rhestr yn un hirfaith.
Trwy gydol 2016 mae nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal i ddathlu canmlwyddiant un o'n hawduron plant mwyaf poblogaidd.
Cafodd Roald Dahl ei eni yn Llandaf, Caerdydd, ar 13 Medi 1916.
I helpu Cymru Fyw i nodi'r garreg filltir mae rhai o ddisgyblion Blwyddyn 5 un o ysgolion cynradd Llandaf wedi cyfansoddi nifer o straeon byrion yn arddull Dahl ar ffurf trydariad.
Mae croeso i chwithau gyfrannu trwy anfon eich straeon at ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau cyfraniadau y criw o Ysgol Pencae. Rydym ni'n ddiolchgar iawn hefyd i Ystad y diweddar Roald Dahl am yr hawl i gael defnyddio rhai o'r cymeriadau.