Deddf rhoi organau: Mwy o gleifion yn elwa
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru "yn arwain" yn yr ymdrechion i gynyddu nifer y bywydau sy'n cael eu hachub drwy drawsblannu organau.
Dyna yw barn Prif Feddyg Llywodraeth Cymru, sy'n dweud fod newid y drefn o roi organau fis Rhagfyr diwethaf wedi cynyddu ymwbyddiaeth ac wedi ysgogi rhagor o bobl i drafod eu dymuniadau gyda'u teuluoedd.
Yn ôl Dr Frank Atherton, fe allai hynny arwain at gynnydd yn y pen draw yn nifer y rhoddwyr organau.
Chwarter yn rhagor
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod chwarter yn rhagor o gleifion sy'n byw yng Nghymru wedi elwa oherwydd trawsblaniad - gyda 214 yn derbyn trawsblaniad yn y flwyddyn hyd at Mawrth eleni, o'i gymharu â 174 yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Mae'r cynnydd o 24% yn uwch o lawer o'i gymharu â'r cynnydd o 4% gafodd ei weld dros holl wledydd y DU.
Ond cynnydd tebyg i'r cyfartaledd Prydeinig sydd wedi bod yn nifer y cleifion o Gymru roddodd eu horganau wedi eu marwolaeth - gyda chyfanswm o 64 o roddwyr yn 2015/16 o'i gymharu â 60 yn y flwyddyn flaenorol.
Mae'r ystadegau newydd yn cyfeirio at gyfnod o wyth mis cyn i'r gyfraith newydd ddod i rym a chyfnod o bedwar mis ar ôl newid y drefn.

Mae'r gyfraith newydd yn golygu bod pob oedolyn sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf flwyddyn yn cael eu hystyried yn barod i roi organau oni bai eu bod yn datgan gwrthwynebiad.
Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i fabwysiadu trefn o'r fath.
Mae ystadegau sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi yn dangos fod 32 o organau wedi cael eu rhoi gan 10 unigolyn na nododd yn swyddogol eu dymuniad y naill ffordd neu'r llall cyn eu marwolaeth.
Ond yn ôl y Prif Swyddog Meddygol, fe fydd angen mwy o amser i asesu pa effaith yn union mae newid y drefn wedi'i gael ar gyfraddau yng Nghymru - gyda gwerthusiad pellgyraeddol i'w gynnal yn ystod y flwyddyn nesaf.
Gwledydd eraill y DU
Os yw hi'n amlwg fod y drefn yn gweithio, yna, yn ôl Dr Frank Atherton, fe ddylai gwledydd eraill y DU ystyried dilyn yr un trywydd.
"Mae angen i ni fod yn ofalus wrth ystyried blwyddyn yn unig o ddata, ond mae'r patrwm yn gadarnhaol," meddai Dr Frank Atherton.
"Flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni mewn sefyllfa llawer cryfach i asesu pa effaith yn union ma newid y drefn wedi'i gael yma.
"Rwy'n trafod â phrif swyddogion meddygol gweddill y DU yn gyson. Ac os oes 'na dystiolaeth gref fod y cyhoedd yn elwa, fe fydd hynny'n rhywbeth wna i sôn amdano yn y trafodaethau.
"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn enghraifft, unwaith eto, o Gymru yn arwain."

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod 'na ragor i'w gyflawni o ran cynyddu nifer y rhoddwyr organau, yn enwedig ymhlith pobl ifanc ac aelodau o gymunedau lleiafrifol.
Fe fydd ymgyrch yn cael ei lansio yr wythnos nesaf i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg unigolion rhwng 18 a 34 mlwydd oed, gan gynnwys myfyrwyr fydd yn dod i Gymru er mwyn astudio mewn prifysgolion.
Mae pryderon hefyd bod cyfraddau cydsynio i roi organau yn sylweddol is mewn cymunedau lleiafrifol (BAME).
Galw'n uwch
Ond yr hyn sy'n amlwg yw fod y galw am organau yn gyffredinol yn llawer uwch na nifer yr organau sydd ar gael i'w trasblannu.
Erbyn Mawrth 2016, roedd 192 o gleifion yng Nghymru ar restr aros am organ. Bu farw 54, tra cafodd 58 eu tynnu oddi ar y rhestr aros oherwydd bod eu iechyd wedi dirywio gormod.
Roedd yna wrthwynebiad gan rai sefydliadau, gan gynnwys mudiadau ffydd, oedd yn poeni y byddai newid y drefn yn tanseilio'r egwyddor mai rhodd ddylai organ fod, ac roedd rôl y teulu hefyd yn un dadleuol.
Does gan deuluoedd ddim hawl i wrthod, ond mae'r staff meddygol yn siarad gyda'r teulu cyn cymryd yr organau.

Catrin Jones yn sôn sut mae ei bywyd wedi newid ers iddi gael aren
Mae Catrin Jones wedi cael dau drawsblaniad aren, y cyntaf yn 1987 a'r llall yn 1998, wedi iddi gael ei geni gyda dwy aren ochr chwith ei chorff.
Mae'n dweud bod derbyn yr arennau wedi newid ei bywyd: "Mae fy mywyd i'n normal, a dyna'r peth pwysicaf. Dw i'n briod. Gennai gartref. Gennai blant. Dw i'n gweithio. Jest bywyd normal."
Mae'n gefnogol i'r newid yn y drefn gan ddweud bod hyn yn rhoi'r pwyslais ar yr unigolyn i benderfynu a yw eisiau rhoi ei organau neu beidio.
"Chi ddim isie i neb yn amlwg golli bywyd. Ond os oes yna siawns bod yna fywydau eraill, a mwy nac un bywyd wrth gwrs, yn cael eu hachub gyda gwahanol rannau o'r corff sydd yn gallu cario ymlaen i helpu, mae'n rhywbeth mor hanfodol bwysig."
